Dwy ferch 12 oed o Lanelli oedd ar goll wedi eu canfod

Jessica May a Chloe Clayton Image copyright Heddlu Dyfed Powys

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dwy ferch 12 oed o Lanelli oedd ar goll wedi eu darganfod yn ddiogel.

Roedd apêl ddydd Llun am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd i Jessica May a Chloe Clayton.

Mewn neges ar wefan cymdeithasol mae'r llu wedi cadarnhau fod y merched wedi eu darganfod a'u bod yn ddiogel.

Mae'r heddlu hefyd yn diolch i bawb fu'n helpu chwilio am y merched.

Pynciau Cysylltiedig