Kyle Bartley yn symud o Abertawe i West Brom

Kyle Bartley Image copyright Getty Images

Mae'r amddiffynnwr Kyle Bartley wedi symud o Abertawe i West Bromwich Albion ar gytundeb tair blynedd.

Dyw'r clybiau heb ddatgelu beth oedd y ffi am y chwaraewr 27 oed, ond y gred yw ei fod tua £4m.

Fe wnaeth Bartley arwyddo i Abertawe o Arsenal yn 2012, gan chwarae dim ond 21 o weithiau yn y gynghrair mewn chwe thymor.

Fe dreuliodd tymor 2016-17 ar fenthyg yn Leeds, gan sgorio chwe gwaith mewn 45 gêm.

Mae'r ymosodwr Borja Baston hefyd wedi gadael y clwb gan ymuno ag Alaves yn La Liga ar fenthyg.

Bartley a Baston yw'r chwaraewyr diweddaraf i adael yr Elyrch wedi iddyn nhw ddisgyn o'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Mae'r chwaraewr canol cae Leon Britton wedi ymddeol, tra bod Angel Rangel, Lukasz Fabianski, Ki Sung-yeung, a Roque Mesa hefyd wedi gadael y clwb.