Heddlu arfog yn ymchwilio fflatiau yng Nghaerfyrddin

Heddlu arfog
Image caption Mae'r ymchwiliad i'r ymosodiadau yn cael ei arwain gan heddlu arfog

Mae heddlu arfog ar ddyletswydd yng Nghaerfyrddin wrth iddyn nhw archwilio bloc o fflatiau yng nghanol y dref yn dilyn ymosodiadau honedig.

Cafodd yr heddlu eu galw am 11:35 ddydd Llun ar ôl adroddiadau o ddigwyddiadau yn Heol Awst a Mangre Gwalia.

Daw'r ymchwiliad ar ôl adroddiadau o ddau ymosodiad ddydd Sul.

Mae sôn fod ymosodiad wedi bod ar chwech o bobl, gydag un yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.

Image caption Yr heddlu yn Heol Dŵr ddydd Llun

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod heddlu arfog yn bresennol oherwydd sôn fod dryll wedi ei ddefnyddio yn yr ymosodiadau.

Cafodd yr heddlu hefyd eu galw i eiddo yn Heol Dŵr yng nghanol Caerfyrddin.

Dywedodd y ditectif arolygydd Wayne Evans: "Fe allai pobl y dref sylwi fod yna fwy o'r heddlu na'r arfer ar y strydoedd wrth i ni ymchwilio, ond hoffwn eu sicrhau nad oes yna unrhyw fygythiad iddynt."

Pynciau Cysylltiedig