Estyn: 'Gormod o amrywiaeth dysgu' Bagloriaeth Cymru

Dosbarth ysgol Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'r Fagloriaeth wedi'i chynllunio ar gyfer disgyblion rhwng 14 ac 16 oed, neu fyfyrwyr chweched dosbarth

Mae brwdfrydedd ac arbenigedd staff sy'n dysgu Bagloriaeth Cymru yn amrywio gormod yn ôl arolygwyr.

Ond mae Estyn hefyd yn cydnabod bod ysgolion wedi ymdopi'n dda gyda'r cyrsiau TGAU newydd yn y pynciau Cymraeg, Saesneg a mathemateg.

Mae'n ymddangos hefyd bod llai o ddewis pynciau gan ddisgyblion oherwydd y pwyslais ar bynciau craidd, a hynny ar ôl i'r Fagloriaeth newid yn 2015.

Daw'r adroddiad diweddaraf ychydig fisoedd yn unig wedi i adroddiad awgrymu bod Bagloriaeth Cymru'n "rhy gymhleth" ac "anodd ei deall".

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod am sicrhau fod eu gofynion ar gyfer y cymhwyster yn glir.

Pryder am sgiliau rhifedd

Cafodd y cyrsiau TGAU a'r Fagloriaeth newydd eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth ym Medi 2015, a'u gwobrwyo am y tro cyntaf yn 2016-17.

Yn ôl Estyn mae agweddau disgyblion tuag at y Fagloriaeth yn "amrywiol iawn" ac mae "cyswllt agos" rhwng hynny â'r statws mae arweinwyr ysgol yn ei roi i'r cwrs.

Mae'r mwyafrif o ddisgyblion yn "gadarnhaol ar y cyfan" ynglŷn â'r cymhwyster, meddai'r adroddiad, er bod "lleiafrif yn negyddol".

Ond mae'n dweud nad ydy sgiliau rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu datblygu'n ddigonol yn y gwersi.

Dywedodd yr adroddiad bod "gormod o amrywio o ran brwdfrydedd ac arbenigedd ymhlith staff sy'n cyflwyno'r cwrs" a bod "ansawdd arweinyddiaeth ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn rhy amrywiol hefyd".

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod canran y disgyblion sy'n astudio pynciau fel llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg wedi gostwng yn sylweddol ers 2012.

Image copyright Thinkstock

Beth yw Bagloriaeth Cymru?

  • Mae wedi'i chynllunio ar gyfer disgyblion rhwng 14 ac 16 oed, neu i fyfyrwyr chweched dosbarth;
  • Mae'r fagloriaeth yn fframwaith sy'n cynnwys nifer o gymwysterau ond y tystysgrif her sgiliau sydd wrth ei gwraidd;
  • Rhaid i fyfyrwyr gwblhau prosiect unigol a thair her arall sy'n profi mentergarwch a sgiliau perthnasol i'r gweithle, gwybodaeth am faterion byd eang a gweithgareddau cymunedol er mwyn derbyn y tystysgrif.

Dywedodd adroddiad Estyn bod disgyblion gafodd eu holi yn gyffredinol yn "gadarnhaol iawn" am eu gwersi Saesneg, Cymraeg a mathemateg.

Yn y Gymraeg a Saesneg, mae llawer o ddisgyblion yn dangos sgiliau llefaredd cryf, ond bod sgiliau ysgrifennu yn wannach.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y cwricwlwm wedi cael ei gyfyngu mewn nifer o ysgolion o ganlyniad i'r diwygiadau i gymwysterau yn 2015 a newidiadau i'r ffordd mae ysgolion yn cael eu mesur.

Mae ysgolion wedi rhoi mwy o amser yn yr amserlen ar gyfer y ddau gwrs TGAU mathemateg a'r Fagloriaeth, sy'n golygu bod y rhan fwyaf o ysgolion wedi gostwng y nifer o ddewisiadau sydd ar gael i ddisgyblion.

'Gostyngiadau nodedig'

Dywedodd yr adroddiad: "Bu gostyngiadau nodedig yn nifer y disgyblion sy'n astudio pynciau eraill mewn TGAU, yn enwedig ieithoedd tramor modern, technoleg dylunio, hanes a daearyddiaeth."

Ac yn ôl Estyn mae gostyngiad o tua 10% wedi bod yn nifer y disgyblion sy'n gwneud arholiadau Llenyddiaeth Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y byddant yn "parhau i weithio gyda'r awdurdodau addysg ac ysgolion i sicrhau fod dysgwyr yn derbyn cefnogaeth wrth ddatblygu sgiliau TGCh a rhifedd mewn gwersi'r Fagloriaeth Gymreig".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol