Gwesty Eden Roc
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Golygfa o westy ym Magaluf lle bu farw llanc

17 Gorffennaf 2018 Diweddarwyd 14:07 BST

Bu farw Thomas Channon, 18 oed o Fro Morgannwg ar ynys Majorca, Sbaen ar ôl disgyn o uchder.

Roedd yn aros yng ngwesty Universal Hotel Florida ac mae heddlu Sbaen yn credu iddo grwydro i mewn i westy Eden Roc cyn disgyn dros 20 metr yn oriau mân bore Iau.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan arddwr yn ddiweddarach.