Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr

Image copyright Getty Images

Y Seintiau Newydd 4-0 KF Shkendija (4-5 ar gyfanswm goliau)

Mae'r Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr er iddyn nhw drechu KF Shkendija o 4-0 yn ail gymal y rownd ragbrofol gyntaf yn Neuadd y Parc nos Fawrth.

Wedi iddyn nhw gael eu trechu o 5-0 ym Macedonia yn y cymal cyntaf yr wythnos ddiwethaf, roedd y Seintiau angen gwyrth i fynd trwodd i'r ail rownd ragbrofol.

Ond bu bron i hynny ddigwydd, gyda Dean Ebbe, Danny Redmond a Ben Cabango oll yn sgorio yn yr hanner cyntaf i'w gwneud yn 3-0 i'r tîm cartref ar yr egwyl.

Roedd hi'n ail hanner mwy rhwystredig i'r Cymry, ac er i'r eilydd Kurtis Byrne ychwanegu pedwaredd yn y munudau olaf, doedd y Seintiau ddim yn gallu canfod y gôl olaf allweddol i gymryd y gêm i amser ychwanegol.

Bydd Shkendija nawr yn wynebu enillydd y gêm nos Fercher rhwng FC Torpedo Kutaisi o Georgia a FC Sheriff o Moldova, tra bo'r Seintiau Newydd yn ailddechrau eu hymgyrch Ewropeaidd yng Nghynghrair Europa.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol