Gwrthod arwydd uniaith Saesneg i gwmni
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gwrthod arwydd Saesneg 'yn torri tir newydd'

18 Gorffennaf 2018 Diweddarwyd 10:36 BST

Mae arolygydd cynllunio annibynnol wedi cefnogi penderfyniad Cyngor Sir Gâr i wrthod caniatâd am arwydd uniaith Saesneg y tu allan i siop newydd Pets at Home yn Cross Hands.

Fe gyflwynodd Pets at Home apêl yn erbyn penderfyniad y cyngor.

Roedd y cwmni eisiau codi arwydd corfforaethol oedd yn cynnwys enw'r cwmni ynghyd â rhai o'r gwasanaethau oedd ar gael tu fewn i furiau'r siop newydd ar ystâd fanwerthu newydd yn Cross Hands.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, y cynghorydd Emlyn Dole, fod y penderfyniad yn un arwyddocaol o ran y Gymraeg.