Y Cynulliad yn ystyried cyfieithu ar y pryd i'r Gymraeg
Alun Jones
Uned Wleidyddol BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cynulliad yn ystyried darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i'r Gymraeg yn ystod eu cyfarfodydd.
Y polisi ar hyn o bryd yw darparu cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg yn unig.
Dywedodd llefarydd eu bod yn ystyried "dichonoldeb" newid y polisi.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 8% o drafodion pwyllgorau ac 20% o gyfraniadau yn ystod cyfarfodydd llawn yn Gymraeg.
'Ansawdd uchaf'
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad wrth BBC Cymru: "Fel rhan o'n gwaith parhaus i sicrhau ein bod yn hwyluso gweithio dwyieithog a darparu gwasanaethau dwyieithog o'r ansawdd uchaf, rydym wedi bod yn ystyried dichonoldeb darparu cyfieithu ar y pryd i'r Gymraeg.
"Nid oes penderfyniad eto wedi'i wneud mewn perthynas â newid y ddarpariaeth gyfredol."
Bydd y cynigion yn cael eu hystyried gan Adam Price AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am Gynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, gan gynnwys newidiadau i brosesau, niferoedd staff ac anghenion hyfforddiant.
Ddydd Mercher dywedodd Mr Price wrth ACau bod y Comisiwn "wedi gosod y nod o fod yn sefydliad sy'n adnabyddus am ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol ac arloesol, ac i fod yn gorff sy'n esiampl i gyrff eraill yng Nghymru a thu hwnt".
Mae'r cofnod ysgrifenedig o drafodion y cyfarfodydd llawn yn hollol ddwyieithog, tra bod trawsgrifiadau pwyllgorau'n cynnwys y cyfieithiad ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg gafodd ei ddarlledu yn ystod y cyfarfod - ond dyw'r cyfraniadau Saesneg ddim yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg.
Straeon perthnasol
- 8 Ionawr 2018
- 14 Gorffennaf 2017