Archeolegwyr yn canfod olion Rhufeinig yng Nghaerfyrddin

Salfe'r cloddio
Image caption Cafodd y crochenwaith ei ganfod ar safle ar Heol y Priordy

Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i grochenwaith o'r Oes Rufeinig ar safle adeiladu yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Phil Paucher o gwmni Archaeology Wales ei fod wedi ei gyffroi gan y darganfyddiad mewn tref oedd ar un adeg ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig.

Mae'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol ar y safle ar Heol y Priordy wedi ei atal am y tro tra bod y tîm o archeolegwyr yn archwilio'r safle.

"Rydym yn gallu dyddio peth o'r crochenwaith rhwng 140 a 190 ar ôl Geni Crist gan fod stamp y crochenydd arnynt." meddai Mr Paucher.

"Mae'n cynnwys crochenwaith Samian gafodd ei ddarganfod yn ei gyfanrwydd.

"Hwn yw'r tro cyntaf mewn 25 mlynedd i unrhyw un o'r tîm cloddio ddod o hyd i grochenwaith cyfan o'r math yma.

"Mae'r Samian yma mae'n debyg yn dod o ogledd Gaul, sef gogledd Ffrainc erbyn heddiw."

Image caption Mae'r crochenwaith Samian yn dyddio rhwng 140 a 190 AD

Dywedodd eu bod yn disgwyl parhau ar y safle am ychydig wythnosau cyn i'r gwaith adeiladu allu ailddechrau.

Bwriad Cymdeithas Tai Bro Myrddin yw codi 27 o fflatiau a 10 o dai ar y safle sydd gyferbyn â chlwb pêl-droed y dref.

Dechreuodd y gwaith adeiladau wedi i adeilad hen fodurdy Denzil Evans gael ei ddymchwel.

Image caption Mae'r safle ger hen lwybr ffordd Rufeinig drwy Gaerfyrddin

Ond roedd yn rhan o'r amodau cynllunio y byddai'n rhaid cyflogi cwmni archeolegol pe bai sylfaeni hanesyddol yn cael eu cloddio.

Mae Heol y Priordy wedi ei hadeiladu ar ben ffordd Rufeinig sy'n dyddio nôl 2,000 o flynyddoedd.

Caerfyrddin, neu Moridunum, oedd y dref olaf i'r gorllewin yn amser yr Ymerodraeth Rufeinig ac mae rhai o olion yr ardal yn cynnwys amffitheatr.

Image caption Dywedodd Phil Paucher bod amodau ynghlwm â'r cais cynllunio yn ymwneud â chloddio archeolegol

Dywedodd swyddog cenedlaethol cwmni Archaeology Wales, Rowena Heart fod y cyfle i archwilio safle mor agos at ganol Caerfyrddin yn "gyffrous ynddo'i hun".

"Mae'r safle yn agos i ganol y dre, ac felly yn agos i ble oedd prif le gweinyddu'r ardal," meddai.

"Dyw dod o hyd i hen olion Rhufeinig mewn tref Rufeinig ddim yn annisgwyl, ond mae'r darganfyddiadau yn dal yn rhai cyffrous.

"Rydym hefyd wedi dod o hyd i ddarnau mân o grochenwaith, hen geiniogau a gemau plant. Mae'n awgrymu fod y bobl oedd yn byw yma o bosib o haenau uwch y gymdeithas.

"Doedd yna ddim gymaint o olion o'r canol oesoedd ond mae'r darganfyddiadau o'r Oes Rufeinig wedi bod yn rhai da."

Pynciau Cysylltiedig