Cynghrair Europa: Shakhtyor Soligorsk yn trechu Cei Connah

Cwpan Cynghrair Europa Image copyright EPA

Mae Cei Connah allan o Ewrop ar ôl iddyn nhw gael eu trechu o 5-1 dros ddau gymal yn erbyn Shakhtyor Soligorsk yn rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair Europa.

Roedd y tîm o Gymru eisoes yn wynebu her fawr ar ôl colli'r cymal cyntaf o 3-1 gartref yr wythnos diwethaf.

Cic o'r smotyn gan Elis Bakaj ac ergyd gan Maksim Bordachev oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn yr ail gymal.

Bu'n rhaid i'r Nomadiaid chwarae hanner awr olaf y gêm gyda 10 dyn wedi i Andy Owens gael cerdyn coch.

Mae'r canlyniad yn golygu mai'r Seintiau Newydd yw'r unig dîm o Gymru sydd ar ôl yn Ewrop, gyda phencampwyr y gynghrair llynedd yn disgyn lawr i Gynghrair Europa ar ôl colli yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Roedd Y Bala a Derwyddon Cefn eisoes allan o Gynghrair Europa ar ôl colli yn y rownd gynragbrofol.

Pynciau Cysylltiedig