Morgannwg yn colli yn y T20

Morgannwg Image copyright Huw Evans picture agency

Gwlad yr Haf oedd yn fuddugol yn y gêm T20 Blast yng Ngerddi Soffia, Caerdydd.

Bu'n rhaid i Forgannwg fodloni ar sgôr 0 160 am 9, ar ôl dechrau addawol gyda Usman Khawaja yn cyfrannu 44.

Daeth sgôr Gwlad yr Haf o 190 am 5, diolch i safiad o 97 rhwng Corey Anderson (59 oddi ar 29) a James Hildreth (56).

Buddugoliaeth i Wlad yr Haf o 30 rhediad.

Hon oedd trydedd fuddugoliaeth Gwlad yr Haf yn y gystadleuaeth, tra bod Morgannwg nawr wedi ennill dau allan o bedwar.

Pynciau Cysylltiedig