Dyn wedi ei anafu yng Nghastell Nedd

Camlas Castell Nedd Image copyright Google
Image caption Mae'r gamlas rhwng Castell Nedd a Llangatwg yn cyd-redeg gyda rhan o ffordd yr A465

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i ddigwyddiad ar lwybr camlas ger Castell Nedd yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Cafodd dyn 18 oed ei gymryd i Ysbyty Treforus gydag anafiadau, ond dyw e ddim mewn cyflwr difrifol.

Mae rhan o'r gamlas rhwng Castell Nedd a Llangatwg yn dal ynghau wrth i'r heddlu barhau a'u hymchwiliad.

Mae'n nhw'n apelio ar i unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal dros nos i gysylltu â nhw.