Bebb: Angen cytundeb heb refferendwm na etholiad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Guto Bebb: 'Sefyllfa'r blaid Geidwadol yn gwbwl rhanedig'

22 Gorffennaf 2018 Diweddarwyd 14:55 BST

Bron i wythnos ar ôl ymddiswyddo o'i swydd fel gweinidog amddiffyn, Mae AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb wedi dweud nad yw'n difaru ymddiswyddo, wrth iddo obeithio am "gytundeb Brexit lle nad oes angen etholiad na refferendwm arall".

Fe wnaeth Mr Bebb ymddiswyddo o'i swydd fel gweinidog amddiffyn nos Lun ar ôl pleidleisio gyda'r gwrthbleidiau ar gymal o fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Mr Bebb wedi pleidleisio yn erbyn gwelliant gafodd ei gynnig gan aelodau sydd o blaid Brexit caled.

Roedd Mr Bebb yn siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru.