Seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Nglyn-nedd

Heddlu

Mae seiclwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd yng Nglyn-nedd.

Roedd y Volkswagen Transporter mewn gwrthdrawiad gyda'r seiclwr ar ffordd yr A4109 rhwng Banwen a Glyn-nedd am 21:15 nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu'r De fod y seiclwr wedi marw yn y fan ar lle a bod y ffordd wedi'i chau am bum awr wrth i'r llu ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae swyddogion yr heddlu yn apelio am wybodaeth ac ar unrhyw un welodd "gyflwr gyrru un ai'r beic neu'r cerbyd cyn y digwyddiad" i gysylltu gyda nhw.

Pynciau Cysylltiedig