Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn Sir y Fflint

Andrew Hamilton
Image caption Cafodd Andrew Hamilton ei ganfod yn farw nos Fercher

Mae dyn 43 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yn Sir y Fflint.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i gyfeiriad ar Stryd Fawr Bagillt am 22:30 nos Fercher ble wnaethon nhw ganfod corff dyn.

Fe gafodd Andrew Hamilton, 42, ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Bydd dyn lleol yn mynd o flaen ynadon yn Y Wyddgrug ddydd llun wedi'i gyhuddo o lofruddio Mr Hamilton.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol