Heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn Nhreboeth

Stryd Roger Image copyright Google
Image caption Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar Stryd Roger yn Nhreboeth, Abertawe toc wedi 14:00 ddydd Llun.

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn Nhreboeth, Abertawe.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar Stryd Roger yn Nhreboeth, Abertawe toc wedi 14:00 ddydd Llun.

Bu farw dyn 73 oed gafodd ei daro gan gar Renault Clio melyn o'i anafiadau.

Mae teulu'r dyn yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae Stryd Roger bellach wedi ail agor ar ôl bod ar gau am sawl awr.

Mae swyddogion yr heddlu'n apelio i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth ynglŷn â'r gwrthdrawiad i gysylltu gyda'r llu drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig