Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd Malaciah Thomas yn byw yn ardal Trebiwt
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi fod dyn 19 oed o ardal Trelái yng Nghaerdydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Bu farw Malaciah Thomas, 20, o Dre-biwt yn ystod oriau man fore Llun.
Cafodd swyddogion arfog eu galw i Grangetown wedi adroddiadau o "ymosodiad difrifol" ar ddyn.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, cafodd y dyn ei drywanu "nifer o weithiau" cyn marw yn y fan a'r lle.
Mae teulu Mr Thomas yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddara, ac maen nhw'n parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Straeon perthnasol
- 24 Gorffennaf 2018
- 23 Gorffennaf 2018