Sarah ac Eurig Evans o Sir Fôn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cefnogwyr yn darogan 'wythnos anodd' i Thomas

23 Gorffennaf 2018 Diweddarwyd 10:13 BST

Mae "nifer fawr" o Gymry wedi teithio i wylio'r Tour de France yn ôl dau o Ynys Môn.

Bu Sarah ac Eurig Evans yn gwylio cymal diweddaraf y ras, lle lwyddodd Geraint Thomas i ddal ei afael ar y crys melyn am y pumed diwrnod yn olynol.

Roedd Mr Evans yn rhagweld wythnos olaf anodd i Thomas, ond yn gobeithio am y gorau i'r Cymro.

Bydd diwrnod o seibiant ddydd Llun cyn y cymal nesaf o'r ras ddydd Mawrth.