Dau yn yr ysbyty yn dilyn damweiniau paragleidio

hofrennydd Image copyright Gavin Thomas

Mae paragleidiwr a barcutwr wedi dioddef anafiadau difrifol mewn dau ddigwyddiad gwahanol brynhawn Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gefnen Rhosili am tua 15:00, lle roedd barcutwr wedi derbyn anafiadau i'w gefn a'i gymalau.

Roedd rhaid i'r peilot gael ei gludo gan hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe yn dilyn y ddamwain.

Cafodd gwylwyr y glannau hefyd eu galw i Fynydd Fochriw ger Merthyr Tudful am 16:00, lle roedd paragleidiwr wedi cael gwrthdrawiad ac wedi dioddef sawl anaf.

Bu'n rhaid i'r tîm achub mynydd sefydlogi cyflwr y peilot cyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Pynciau Cysylltiedig