Teyrnged i feiciwr wedi gwrthdrawiad ger Glyn-nedd

David Leighton Thomas Image copyright Llun teulu

Mae teulu beiciwr gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged i "gymeriad cyfeillgar".

Bu farw David Leighton Thomas, 55, yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad gyda VW Transporter ar yr A4109 rhwng Banwen a Glyn-nedd am tua 21:15 nos Sadwrn.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu eu bod "wedi ein llorio" yn dilyn marwolaeth Mr Thomas, oedd o ardal Seven Sisters yng Nghastell-nedd.

"Roedd e'n gymeriad cyfeillgar ac adnabyddus yn y gymuned leol. Roedd wastad yn tynnu coes a byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un," meddai'r teulu.

"Byddai'n aml yn cael ei weld ar ei feic, ble roedd wrth ei fodd. Roedd yn ddau gyda'i ddwylo ac wastad yn chwilio am bethau i'w trwsio.

"Hoffen ni fel teulu ddiolch i'r gwasanaethau brys wnaeth geisio helpu David."

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a'u bod yn annog unrhyw un a welodd y fan neu'r beiciwr cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol