Perfformiad trychinebus gan Forgannwg

criced

Mae Morgannwg wedi cael cweir cyn diwedd ail ddiwrnod y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sussex yn Hove.

Daeth batiad cynta'r tîm cartref i ben nos Sul ar 327, ac roedd Morgannwg yn gobeithio am sgor uchel yn eu batiad cyntaf nhw.

Ond roedd y batio yn wael, ac fe ddaeth batiad cyntaf yr ymwelwyr i ben am 85 o rediadau yn unig.

Roedd hynny'n ngolygu fod yn rhaid i Forgannwg fatio eto yn syth, a doedd yr ail fatiad yn fawr gwell na'r cyntaf.

Ychydig wedi 19:00 nos Lun, fe ddisgynnodd y wiced olaf gyda chyfanswm ail fatiad Morgannwg yn 88.

Daeth buddugoliaeth i Sussex felly o fatiad a 154 o rediadau - colled drymaf Morgannwg ers tro byd.

Mae'n gadael Morgannwg un o waelod ail adran y bencampwriaeth, ond wedi chwarae un gêm yn fwy na Sir Gaerloyw sydd ar y gwaelod.