Llofruddiaeth Bagillt: Dyn yn ymddangos yn y llys

Andrew Hamilton
Image caption Cafodd Andrew Hamilton ei ganfod yn farw nos Fercher

Mae dyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn Sir y Fflint yr wythnos diwethaf.

Mae Christian Francis Williams, 43 oed o Fagillt, wedi ei gyhuddo o lofruddio Andrew Hamilton mewn fflat yn Stryd Fawr y dref.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r eiddo am 22:30 nos Fercher ble wnaethon nhw ganfod corff.

Fe gafodd Mr Hamilton ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Yn y llys ddydd Mawrth fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands bennu dyddiad ar gyfer yr achos, fydd yn dechrau ar 16 Ionawr 2019.

Cafodd Mr Williams ei gadw yn y ddalfa.

Straeon perthnasol