Cyhoeddi enw dyn 20 oed fu farw yn Grangetown, Caerdydd

Malachi Thomas Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Roedd Malaciah Thomas yn byw yn ardal Trebiwt

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 20 oed fu farw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd.

Roedd Malaciah Thomas yn 20 oed ac yn byw yn ardal Trebiwt o'r ddinas gyda'i fam a'i chwaer.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i'w lofruddiaeth ar ôl cael eu galw i dŷ ar Heol Corporation am tua 02:00 fore Llun.

Mae'r heddlu'n apelio eto am wybodaeth a lluniau CCTV neu dashcam o'r ardal, gan ddiolch i'r rhai sydd eisoes wedi cysylltu â nhw.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Gareth Morgan bod yr heddlu'n "gwneud popeth yn ein gallu" i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol am farwolaeth Mr Thomas.

Ychwanegodd "Rydyn ni'n dilyn sawl trywydd positif ond hyd yn hyn nid oes unrhyw un wedi eu harestio a rydyn ni'n apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth, ond heb gysylltu eto, i'n galw ni."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol