Codiad cyflog athrawon yn 'dwyll', yn ôl Carwyn Jones

Athro

Mae bwriad Llywodraeth y DU i godi cyflogau athrawon yng Nghymru a Lloegr yn "dwyll", yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones,

Bydd athrawon yng Nghymru yn derbyn cynnydd o 3.5% yn eu cyflogau, yn union fel athrawon Lloegr.

Fodd bynnag, tra bod y codiad cyflog yn dod o gyllidebau sy'n bodoli eisoes yn Lloegr, does dim disgwyl y bydd arian ychwanegol yn dod i Gymru i dalu amdanynt.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod y penderfyniad yn "sicrhau codiad cyflog i weithwyr y sector gyhoeddus a bod yn deg i drethdalwyr".

Yn ôl swyddog cenedlaethol NASUWT, ni ddylai Llywodraeth Cymru "frefu" am ddod o hyd i'r arian i athrawon, gan fod y penderfyniad eisoes wedi ei wneud.

'Twyll'

Er bod addysg yn bwnc sydd wedi ei ddatganoli ers 1999, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am osod cyfraddau cyflog athrawon.

Cafodd ei gyhoeddi yn Hydref 2016 fod y cyfrifoldeb dros osod cyflogau athrawon yn cael ei ddatganoli, ond ni fydd hynny'n weithredol tan y flwyddyn nesaf.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod miliwn o weithwyr y sector cyhoeddus yn derbyn eu codiad cyflog mwyaf ers 10 mlynedd, gydag aelodau o'r lluoedd arfog hefyd yn elwa.

Mae hanner biliwn o bunnoedd o gyllideb yr Adran Addysg wedi ei roi i'r naill ochr yn Lloegr i ariannu'r tâl ychwanegol i athrawon.

Image copyright Getty Images

Dywedodd Carwyn Jones y bydd llai o athrawon a llai o arian yn yr ysgolion os na fydd Cymru'n derbyn arian ychwanegol i gyd-fynd gyda'r codiad cyflog.

"Mae'n dwyll," dywedodd Mr Jones.

"Yr unig ffordd i wneud hyn yw i Drysorlys y DU i ddweud eu bod am sicrhau bod yr arian ar gael yn Lloegr a bod Cymru, o ganlyniad, yn derbyn swm sy'n gyfystyr er mwyn gallu gwneud yr un fath yma."

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi bod meddygon iau, meddygon arbenigol, meddygon teulu a deintyddion yn derbyn codiad cyflog o 2%, a meddygon ymgynghorol yn derbyn 1.5%.

Ond gan fod cyfrifoldeb dros gyflogau'r Gwasanaeth Iechyd wedi ei ddatganoli, dim ond meddygon yn Lloegr fydd yn elwa.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu a ydynt am ddilyn penderfyniad Lloegr eto.

Arian ychwanegol?

Mae Llŷr Gruffydd AC, llefarydd Plaid Cymru ar addysg, wedi dweud ei fod yn croesawu'r codiad cyflog "hir-ddisgwyliedig" i athrawon a gweithwyr sector cyhoeddus eraill.

Fodd bynnag. dywedodd bod angen "eglurdeb" gan Lywodraeth y DU am sut fydd y codiadau cyflog yn cael eu talu.

Dywedodd Mr Gruffydd: "Os na fydd arian ychwanegol yn dod o'r Trysorlys, yna fydd yr ysgolion yn gorfod ariannu'r codiadau cyflog o'u cyllidebau, sy'n gwbl annerbyniol.

"Rydym yn gwybod bod nifer o ysgolion eisoes ar ymyl y dibyn gyda'u sefyllfaoedd ariannol, ac ni fydd hi'n bosib ariannu codiadau cyflog heb golli staff o ganlyniad."

'Gwneud esgusodion'

Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AC wedi beirniadu'r Prif Weinidog am "ddagrau ffug a gwneud esgusodion".

Dywedodd Mr Millar: "Dylai'r Prif Weinidog estyn i'w boced a rhoi'r codiad cyflog mae athrawon yn ei haeddu iddynt.

"Mae gennym broblem recriwtio athrawon yn barod ac mae atal codiad cyflog yng Nghymru tra bod athrawon yn Lloegr yn ei dderbyn ond yn mynd i waethygu'r sefyllfa."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod y penderfyniad yn "sicrhau codiad cyflog i weithwyr y sector gyhoeddus a bod yn deg i drethdalwyr".

Ychwanegodd y byddai'r codiad cyflog i weithwyr iechyd yn golygu mwy o arian i Gymru drwy fformiwla Barnett, ond bod y llywodraeth "wastad wedi bod yn glir y byddai codiad cyflog i weithwyr eraill yn dod o gyllidebau adrannol".

Yn ôl Rex Phillips, Swyddog Cenedlaethol Cymru NASUWT, ni ddaw da o Lywodraeth Cymru'n "brefu" am dalu am godiad cyflog athrawon, gan fod y penderfyniad eisoes wedi ei wneud.

"Dyw athrawon yng nghyfnod cyntaf eu gyrfa ddim wedi derbyn tegwch yng Nghymru y llynedd, gan mai dim ond 1% yn hytrach na 2% o godiad cyflog dderbyniodd y rhai rhwng pwynt tri a phump ar y raddfa gyflog.

"Bydd rhaid unioni hyn wrth dalu'r cynnydd sydd wedi cael ei addo gan y penderfyniad."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol