Cwestiynu ymgyrch 'Food is Great'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gwahaniaeth barn am yr ymgyrch farchnata 'food is great'

24 Gorffennaf 2018 Diweddarwyd 21:46 BST

Mae ffrae wedi codi ynglŷn â phenderfyniad i hyrwyddo ymgyrch Llywodraeth Prydain Food is Great yn Neuadd Fwyd y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mae'r ymgyrch yn defnyddio baner Jac yr Undeb i hyrwyddo cynnyrch amrywiol.

Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mae'r ymgyrch yn tanseilio'r ymdrech i greu Brand Cymreig i fwydydd Cymru ac yn gwthio agenda o Brydeindod.

Cafodd awgrym Mr ap Iorwerth ei wrthod gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.