Yr ifanc a ŵyr: Doreen Lewis a Caryl Lewis

Yn ddiweddarach eleni, mae'r gantores canu gwlad enwog o Geredigion, Doreen Lewis yn rhyddhau ei hunangofiant 'Merch o'r Wlad'.

Yma, mae hi a'i merch, yr awdures Caryl Lewis, sy'n enwog am nofelau fel Martha Jac a Sianco, Y Bwthyn a llyfrau plant, yn trafod perthynas mam a merch, bod yn greadigol, bywyd prysur a phlentyndod hapus.


Doreen Lewis: "Mae Caryl yn gallu ymestyn mas at bobl, a mae'n gallu cyffwrdd ynddyn nhw."

Image copyright Doreen Lewis
Image caption Doreen Lewis - 'Brenhines canu gwlad Cymru'

Cafodd Caryl a'i brawd Gwyndaf eu magu yn y dre, yn Aberaeron, ddim ar ffarm. O'n i a'r gŵr yn blant ffarm, ond pan briodon ni fe symudon ni i fyw i Sgwâr Alban yn Aberaeron. O'n i'n bobl y wlad yn y dre!

Roedd y Ca' Sgwâr tu fla'n y tŷ, oedd Gwyndaf y mab wrth ei fodd yn cael chware ffwtbol! Roedd yn lle cyfleus i fagu plant, r'on nhw'n cael mynd i bob man a gwneud pob peth.

Cafodd Caryl fagwraeth syml, bywyd ysgol, mynd i'r Urdd ac i'r eglwys yn Aberaeron, chwarae'r piano ac yn y blaen.

Achos mod i'n canu, o'n i mas bob penwythnos yn perfformio, felly oedd y plant yn mynd wedyn i'r ffermydd at eu Mam-gu a Thad-cu - naill ai at fy mam a nhad i, neu at fy nhad a mam yng nghyfraith. Felly bob penwythnos o'n nhw ma's yn y wlad.

Oedd Caryl yn ferch dawel iawn, doedd hi byth yn un o'r plant oedd yn y rheng flaen, ond o'n i'n gwybod ei bod hi'n gwylio popeth ac yn sylwi ar bopeth hefyd.

Pan oedd y plant yn henach, oedden nhw'n dod gyda fi i lefydd pan o'n i'n canu, ac oedd y ddau yn cael eistedd yn y green rooms gefn llwyfan. O'dd Caryl yn gwrando a gwylio ar lot o wahanol bobl, mae 'na bobl ecsentrig yn y byd 'ma a ti'n dod ar eu traws nhw tu nôl y llwyfannau 'ma!

Felly o'dd Caryl wedi gweld amrywiaeth o bobl o bob cefndir pan oedd hi'n tyfu lan, a dwi'n credu bod hwnna nawr yn dangos yn ei gwaith hi.

Dwi'n falch iawn bod Caryl yn greadigol. Fi wastad yn meddwl bod e'n neis, pan mae rhywbeth gen ti sy'n fyd arall i fynd iddo. O'n i wastad yn gobeithio bydde un o'r plant â rhywbeth fel 'na gyda nhw, a dwi'n gobeithio y bydd rhai o'r wyrion hefyd.

Unwaith dwi'n mynd ar y llwyfan i ganu, allai anghofio am unrhyw beth sy'n fy mlino i cyn mynd ar y llwyfan. Pan dwi'n perfformio, mae e wedi mynd. A wi'n gwbod bod Caryl yr un fath. Unwaith ei bod hi ym myd ei llyfrau, mae hi mewn byd arall.

'Perthynas agos'

Mae gyda ni berthynas agos fel mam a merch. Mae Caryl yn dangos ei llyfre i fi cyn eu cyhoeddi, mae hi yr un mor falch o'r rhai diweddara' y mae hi wedi eu cyhoeddi ag odd hi gyda'r rhai cynta'.

Pan mae hi'n cyhoeddi llyfr newydd mae hi'n gyffro i gyd, a wi'n falch bod y cyffro yna gyda hi.

Fel 'na o'n i ar ôl ysgrifennu cân. Os o'n i'n sgwennu'n hwyr y nos, o'n i mor gyffrous ambiti'r gân, o'n i'n dihuno'r plant ac yn canu iddyn nhw ar y landing am hanner nos! Mae 'di cael y math 'na o fagwraeth.

I fi roedd y canu yn rhywbeth oedd yn rhaid i fi ei 'neud. Oedd 'na rhywbeth yndda i. Ers pan o'n i'n blentyn tair neu bedair oed yn y capel.

Wi'n cofio mynd yn blentyn bach i Neuadd Felinfach a gweld y ddrama bentref, a gweld y cymeriadau lleol ar y llwyfan, dwi'n cofio meddwl 'dwi mo'yn neud rhywbeth ar y llwyfan fel rhein' - o'n i'n eu hedmygu nhw yn fawr iawn.

'Dwi wedi cael canu fy nghân'

Wnes i fy record gynta' pan o'n i'n 16 oed gyda label Cambrian, o'dd Mary Hopkin 'di recordio gyda nhw, ac oedd contacts gyda nhw ym mhob man.

O'n nhw moy'n i fi fynd ymhellach, ges i gynnig i fynd bant i ganu ac i newid fy enw, ond wnes i ddim ei gymryd e.

Doreen Lewis
Image caption Recordiodd Doreen Davies ei record gyntaf i label Cambrian yn 1969, a hithau'n dal yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberaeron

Wi'n meddwl ambell waith, what if? Ond wedyn, a fydde teulu ac wyrion 'da fi nawr?

Pan ti'n 15 neu 16 oed, mae pobl yn dod ato ti yn dweud 'ni mo'yn i ti newid dy ddelwedd, a newid dy enw', beth wyt ti'n neud? O'n i ddim 'di gweld lot o'r byd a ddim yn deall lot ambiti'r byd, roedd yn codi ofan arna i.

Edrychodd Cymru ar fy ôl i a dwi 'di bod yn lwcus. Dwi 'di cael y ddau fyd, dwi wedi cael canu fy nghân, a dyna beth o'n i mo'yn.


Caryl Lewis: "Roedd Mam yn 'role model' modern iawn."

Caryl Lewis
Image caption Enillodd Caryl Lewis deitl Llyfr y Flwyddyn am yr eildro yn 2016 am ei nofel Y Bwthyn. Enillodd yn 2005 am ei nofel Martha, Jac a Sianco.

Mae Mam yn berson cynnes iawn, roedd hi wastad yn llawn syniadau, wnes i erioed ddefnyddio'r gair bored yn tyfu lan, oedd wastad rhyw brosiect mlaen 'da hi.

O'dd fy mhlentyndod yn gyfnod hapus iawn ac yn ddiddorol.

O'n i'n mynd gyda Mam lot pan oedd hi'n canu. Wi'n credu bod eistedd tu nôl y llwyfannau pan oedd hi'n perfformio yn bendant wedi effeithio ar shwt dwi'n gweld pobl. O'n i wastad yn aros ac yn gwylio pobl, a mae hwnna wedi effeithio ar fy sgwennu i.

Pan ti'n fam, ac yn berson creadigol yn creu gwaith creadigol, rwyt ti bron yn ddau berson. Dwi'n cofio gweld Mam yn newid. O'dd hi'n rhoi colur mlaen ac yn gwisgo dillad lliwgar, ac unwaith odd hi wedi troi mewn i'r person yna, odd hi'n rywun arall.

Dwi'n gallu uniaethu gyda hwnna nawr bo' fi'n hŷn a gyda phlant. Mae dau enw gen i, enw priod ac enw ysgrifennu, ac mae 'na wahanu rhwng y person gatre a'r person sy'n 'neud y gwaith.

Roedd Mam yn role model modern iawn. O'n i'n gweld bod hi ddim 'jyst yn Mam' ac mae hwnna'n bwysig ac yn rhywbeth dwi'n trio rhoi i fy mhlant i.

Dwi'n dweud wrthyn nhw, 'mae Mam yn creu a mae hwnna'n normal ac yn iach'. Ges i hwnna wrth Mam, o'dd hi'n eitha' annibynnol gyda bywyd ac incwm ei hunan.

Ges i'r argraff yn ifanc iawn bod rhaid gwneud lot o wahanol bethe pan o'n i'n ifanc. Doedd Mam ddim yn fy ngwthio i unrhyw gyfeiriad o gwbl, dyw hi ddim y math yna o berson.

O'dd hi'n mynd â ni i bob man, doedd hi ddim yn ein gwarchod ni rhag bethe trist ac o'dd hi'n gadel ni weld bywyd fel ag yr oedd e, achos os wyt ti'n mynd i fod yn greadigol, mae'n rhaid i ti gael rhywbeth i sgwennu ambiti.

Mae Mam yn fy neall i. Mae'n deall yr ochr greadigol a'r angen i neud pethe ambell waith.

Os ydw i'n gofyn iddi warchod y plant i fi gael sgrifennu heddiw, bydde hi ddim yn gofyn 'pam na elli di ei wneud e fory?' Mae'n deall falle bydd yr awen ddim yn dod fory.

Ni mewn teulu lle mae parch at greadigrwydd ac heb y gefnogaeth yna, bydde fe'n anodd iddo fe weithio.

O archif 'Yr ifanc a ŵyr':

Pynciau Cysylltiedig