Andre Ayew symud o Abertawe i Fenerbahce ar fenthyg

Andre Ayew Image copyright Huw Evans picture agency

Mae ymosodwr Abertawe, Andre Ayew wedi symud ar fenthyg i Fenerbahce am dymor.

Fe fydd gan y clwb o Dwrci yr opsiwn o brynu'r chwaraewr 28 oed o Ghana ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Y gred oedd mai Ayew oedd un o'r chwaraewyr ar y cyflogau uchaf yn Abertawe, gyda'r clwb yn awyddus i dorri costau ar ôl disgyn o'r Uwch Gynghrair.

Fe wnaeth y blaenwr ailymuno â'r Elyrch ym mis Ionawr o West Ham am ffi o tua £18m.

Pynciau Cysylltiedig