Heriau arddangos celf a chrefft y Brifwyl yn y Senedd

Y Lle Celf yn y Senedd

Oherwydd trefniadau diogelwch llym lleoliad celf gweledol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, bydd bagiau ymwelwyr yn cael eu harchwilio wrth iddyn nhw gyrraedd.

Yn y Senedd mae'r Lle Celf eleni a bu'n rhaid sganio neu archwilio'r holl weithiau celf a chrefft sy'n cael eu harddangos yno, dan drefniadau arferol cartref Cynulliad Cymru.

Mae'r trefnwyr yn annog Eisteddfodwyr i beidio â dod â "gormod o stwff" i'r adeilad er mwyn osgoi "arafu'r llif" i mewn i'r arddangosfa, ond bydd lle ar gyfer gadael bagiau mawr.

Y Lle Celf yw un o adeiladau mwyaf poblogaidd y maes ac mae'n denu tua 40,000 o Eisteddfodwyr bob blwyddyn.

Yn ôl swyddog celfyddydau gweledol yr Eisteddfod, Robyn Thomas, roedd swyddogion y Senedd wedi croesawu'r cyfle i gynnal y Lle Celf am eu bod "eisiau i'r cyhoedd berchnogi'r adeilad", ond mae'n rhaid i bawb gydymffurfio â'r system ddiogelwch, ac mae'n cynghori Eisteddfodwyr i "roi digon o amser i'w hunain".

Fel arfer, mae gan y trefnwyr rai wythnosau i osod yr arddangosfa yn y gofod, ond eleni bu'n rhaid symud y gwaith mewn un diwrnod o stordy'r Eisteddfod yn Llanybydder.

Mae "ymdopi â diwylliant gwahanol" y Senedd ac addasu yn lle "gwneud petha' yn un ffordd o flwyddyn i flwyddyn heb gwestiynu'r peth" wedi bod yn broses fuddiol, meddai Robyn Thomas.

"Does dim yr un rheolaeth gyda ni dros y gofod. Ni 'di gorfod galw'r gwaith celf mewn yn gynt, adeiladau panelau arbennig ar gyfer eu defnyddio yn y Senedd - wrth gwrs, bydd modd i ni ddefnyddio nhw flwyddyn nesa' hefyd.

"Fel rheol, ni'n gallu addasu'r arddangosfa yn ôl y gwaith celf. Mae gyda chi focs gwyn, a chi'n gallu gosod y panelau i siwtio be' sydd 'di ca'l ei ddethol.

"Tro 'ma, mae bach yn wahanol. Rhaid defnyddio'r gofod.

"Mae 'na lot o wydr, mae 'na lot o bren, mae 'na lechi," meddai, wrth drafod gofod agored ardal mynedfa'r Senedd. "Trwy lwc, mae gyda ni ddarn priodol o waith i'w osod yna."

Oherwydd lleoliad Lle Celf eleni mae cyfle prin i'r cyhoedd ymweld â'r Cwrt ar y llawr isaf, lle mae'r mynediad i'r Siambr a swyddfeydd y pleidiau gwahanol.

Mae gwaith fideo'n cael ei arddangos yn y swyddfeydd, Yn y Cwrt hefyd mae gweithgareddau'r pebyll Cymdeithasau.

Yn yr arddangosfa agored, mae nifer o'r 25 o artistiaid sydd wedi cael eu dethol yn cymryd rhan am y tro cyntaf.

Gwaith crefft a chelfyddyd gynhwysol sydd ar y lefel uchaf ym man eistedd a chyfarfod yr oriel.

Bydd naws hollol unigryw i arddangosfa arbennig Y Lle Celf eleni, wedi i'r is-bwyllgor celfyddydau lleol fynegi awydd i "ddathlu'r bobl ddaeth o bedwar ban byd" a gwneud Caerdydd yn ddinas mor amlddiwyllannol.

Cododd syniad o greu celf ar y dŵr yn y Bae, a'r artist o Lan Conwy, Megan Broadmeadow gafodd y comisiwn i'w wireddu.

Mae sgriniau dŵr enfawr wedi eu gosod o flaen adeilad y Senedd ac yn y tywyllwch wrth iddi nosi mae'n bosib taflunio delweddau arnyn nhw.

Mae'r cerddor Gruff Rhys wedi cyfansoddi "cân o ddathlu" ar gyfer y sioe 10 munud o hyd, sy'n dilyn gorymdaith Carnifal y Môr o Ganolfan y Mileniwm ar ddiwedd cyngerdd Hwn Yr Fy Mrawd nos Sadwrn.

Straeon perthnasol