Anrhydeddu Cymro yn ddinesydd anrhydeddus Lerpwl

Keyframe #2
Image caption Fe symudodd y Parchedig Ddr D. Ben Rees i Lerpwl yn 1969

Bydd un o Gymry amlycaf Lerpwl yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth y tu hwnt i'r disgwyl i'r ddinas.

Mae'r Parchedig Ddr. Athro D.Ben Rees wedi derbyn cadarnhad gan Faer Lerpwl, Joe Anderson y byddai'n cael ei wneud yn ddinesydd anrhydeddus y ddinas.

Mae ei berthynas â'r ddinas yn mynd yn ôl 50 mlynedd ac yntau wedi ei benodi yn weinidog Capel Cymraeg Heathfield Road y Presbyteraid yno yn 1968.

Dywedodd Maer Anderson fod y Parchedig Rees wedi cael "effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y ddinas".

Wrth siarad ar raglen Post cyntaf Radio Cymru, dywedodd y Parchedig fod yr anrhydedd yn "rhywbeth i ymfalchïo ynddo" a'i fod yn "ddiolchgar iawn ohono".

'Gwasanaeth anhunanol'

Dros y blynyddoedd mae'r Parchedig Rees, a ddywedodd fod y ddinas bellach "yn ei waed", wedi bod yn weithgar iawn gyda Chymdeithas Gymraeg Lerpwl.

Roedd hefyd yn flaenllaw yn nhrefniadau nodi union ganmlwyddiant Eisteddfod Y Gadair Ddu ym Mhenbedw y llynedd.

Mewn cyfarfod o Gyngor Dinas Lerpwl roedd y penderfyniad yn unfrydol i anrhydeddu'r Parchedig Rees.

Yn ôl swyddfa'r maer, y Parchedig Rees yw'r unig berson fydd yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni sydd eto i'w threfnu.

'Effaith bositif'

Yn y llythyr, mae eglurhad fod teitl dinesydd anrhydeddus yn cael ei roi i bobl sydd wedi rhoddi gwasanaeth y tu hwnt i'r disgwyl a chwbl anhunanol i Lerpwl.

Ychwanegodd y maer Joe Anderson: "Rydym wrth ein boddau fod y Parchedig Ddr D.Ben Rees ar fin derbyn yr anrhydedd am ei gyfraniad enfawr i'r gymuned Gymraeg yn Lerpwl ers iddo gyrraedd y ddinas yn 1968.

"Nid yn unig ei fod wedi arwain Capel Bethel, ond mae hefyd wedi cyfrannu at eglwysi Cymraeg eraill dros y blynyddoedd.

"Mae wedi cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y ddinas."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol