Cynghrair Europa: Y Seintiau Newydd 2-1 Lincoln Red Imps

Blaine Hudson yn sgorio
Image caption Blaine Hudson yn rhoi'r Seintiau ar y blaen

Roedd gôl hwyr gan Blaine Hudson yn ddigon i roi'r fantais i'r Seintiau Newydd yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Cafodd y Seintiau'r dechreuad perffaith i'r cymal cyntaf wrth i Dean Ebbe eu rhoi ar y blaen wedi chwe munud.

Er gwaetha pwysau cyson gan y Seintiau Newydd, llwyddodd y Lincoln Red Imps daro 'nôl gan ddod ar sgôr yn gyfartal cyn hanner amser.

Nid oedd pencampwyr Cymru ar eu gorau, gyda Daniel Redmond a Greg Draper yn wastraffus o flaen y gôl.

Ond, gyda saith munud i fynd fe beniodd Hudson groesiad Aeron Edwards i gefn y rhwyd i roi'r fantais i'r Cymry.

Er gwaetha'r golled bydd pencampwyr Gibraltar yn falch o fod wedi sgorio gôl oddi cartref, a all fod yn hanfodol yn yr ail gymal ar 2 Awst.

Bydd yr enillwyr dros ddau gymal yn mynd yn ei blaen i wynebu Astana neu Midtjylland.

Pe bai'r Seintiau Newydd yn llwyddo i fynd i'r rownd nesaf, yna byddai'r cymal cartref yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Pynciau Cysylltiedig