Rhybydd tywydd melyn am wynt a glaw i rannau o Gymru

Rhybydd melyn Image copyright Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law a gwynt ar gyfer dydd Sul.

Bydd y rhybudd mewn grym am 03:00, a hynny ar gyfer y rhan fwyaf o'r de a'r gorllewin, ac fe fydd mewn grym tan 15:00 yn y prynhawn.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai amseroedd teithio i yrwyr gael eu hymestyn oherwydd yr amodau anodd.

Maen nhw hefyd yn disgwyl tonnau mawrion ar hyd arfordir y de a rhai ffyrdd sy'n agos at yr arfodir.

Gallai rhai ardaloedd golli'u cyflenwadau trydan oherwydd y gwynt yn ogystal gyda'r gwyntoedd yn cyrraedd cyflymder o 50 mya mewn mannau.

Ond mae disgwyl i'r tymheredd barhau'n weddol gynnes ar y cyfan, gan godi i hyd at 23°C yn ystod y dydd.

Pynciau Cysylltiedig