Tad Geraint Thomas yn dathlu llwyddiant ei fab
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Howell Thomas wrth ei fodd wedi llwyddiant ei fab

30 Gorffennaf 2018 Diweddarwyd 06:49 BST

Wedi buddugoliaeth hanesyddol Geraint Thomas yn y Tour de France dywed ei dad Howell Thomas nad oedd e'n credu y byddai ei fab yn ennill.

Wrth siarad â gohebydd y Post Cyntaf funudau cyn selio'r fuddugoliaeth ddydd Sul dywedodd Mr Thomas: "O ni byth yn meddwl byddai fe'n ennill - o ni'n gobeithio byddai fe ar y podium ond ennill - waw!

Dyma'r tro cyntaf i Gymro ennill y gystadleuaeth sydd yn cael ei chydnabod fel ras seiclo fwya'r byd.