Elfed Roberts: Edrych ymlaen at fod yn ddyn 'ddoe'

Elfed Roberts
Image caption Ymunodd Elfed Roberts â staff yr Eisteddfod yn 1986 a'i benodi'n brif weithredwr yn 1993

Eisteddfod Genedlaethol eleni yw'r olaf dan ofal Elfed Roberts cyn iddo ymddeol fel prif weithredwr - a'r un mwyaf cymhleth.

"Mae trefnu Steddfod mewn cae yn dipyn haws na threfnu Steddfod mewn lle fel Bae Caerdydd," meddai, ar drothwy ei 26ain Prifwyl yn y swydd.

"Mae hon 'di bod yn wahanol ac yn fwy cymhleth oherwydd 'da ni 'rioed 'di neud un fel hyn o'r blaen," dywedodd.

"Mewn cae, unwaith ma'r tirfeddianwyr yn trosglwyddo'r caea' i chi... chi sy'n penderfynu be sy'n digwydd, chi'n rheoli'r safle yna yn unol â'r hyn 'da chi isio."

Ond eleni roedd angen trafod gyda 26 o wahanol berchnogion yn y bae ac ystyried yr effeithiau posib ar drigolion a busnesau'r ardal, gan geisio "dod â nhw 'efo ni ar y daith".

Image caption Roedd peth ymdrech, medd Elfed Roberts, i ystyried effaith yr Eisteddfod ar fusnesau a thrigiolion Bae Caerdydd ac egluro i rai beth yn union yw'r digwyddiad

"Ma' isio egluro iddyn nhw beth ydy'r Eisteddfod, beth yw pwrpas yr Eisteddfod, annog nhw i anwesu'r Gymraeg a'r diwylliant, ac i roi croeso i bobl.

"Ac os gwna nhw hynny, ca'l eu gweld fel pobl groesawgar, yna o bosib mi fyddan nhw fel busnesa' yn cael budd allan o'r Eisteddfod."

Roedd yr heriau'n cynnwys sicrhau tir ar gyfer y maes carafanau - Caeau Pontcanna - ac mi gymrodd "dipyn o amser" i gael lleoliad ar gyfer Maes B - hen ganolfan Profiad Dr Who.

Crwydro, siarad a gwrando

Yn ôl ei arfer, crwydro'r maes fydd Elfed Roberts "bron iawn trwy'r dydd, bob dydd", yn hytrach nag eistedd mewn swyddfa neu bafilwn, oherwydd "yn fan'na dwi'n cyfarfod y bobl".

Eisteddfodwyr, meddai, boed yn cwyno neu'n canmol, wnaeth awgrymu'r rhan fwyaf o'r newidiadau yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.

Mae'r rheiny'n cynnwys bar ar y maes, Cylch yr Orsedd symudol a gweithgareddau gyda'r nos.

Image caption Syniad Eisteddfodwyr oedd cludo meini ffug o flwyddyn i flwyddyn yn lle gosod Cylch yr Orsedd ym mro'r Brifwyl

Dywedodd bod "pobl yn barotach" erbyn hyn i ystyried syniadau gwahanol a chynhwysol, sy'n berthnasol i ardal y Brifwyl ac i fywyd yn y Gymru gyfoes.

Bydd hynny'n cael ei adlewyrchu eleni gan weithgareddau Mas ar y Maes mewn partneriaeth gyda'r gymuned LGBT, a gorymdaith Carnifal y Môr, sy'n dathlu rhan cymunedau aml-ddiwyllannol yn nhwf a llwyddiant dinas Caerdydd.

"Y peth mwya' anodd am newid ydy deall na tydy newid ynddo'i hun.... ddim yn brifo gymaint a ma' rhywun yn 'i feddwl," dywedodd.

Image caption Elfed Roberts ar faes Eisteddfod Y Bala yn 1997 pan roedd bar ar y maes ieuenctid am y tro cyntaf

Un o'r datblygiadau pwysicaf ers iddo ddod y brif weithredwr yw'r cytundeb gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n golygu bod y 22 awdurdod yn rhannu'r baich o ariannu'r Eisteddfod.

Mae hefyd yn ymrwymo'r Brifwyl i ystyried ymweld ag unrhyw ran o Gymru, cyn belled â bod yna safle addas i'w chartrefu.

Yn ôl Elfed Roberts "does na ddim arwydd o gwbl nad ydy hwnnw'n gweithio".

Mae'n pwysleisio bod yr Eisteddfod yn fodlon asesu "pob opsiwn", hyd yn oed mewn ardaloedd sy'n ymddangos yn amhosib ar hyn o bryd oherwydd "mae'r petha' ma'n gallu newid... ma' modd newid rhai amgylchiadau".

Pwysigrwydd pobl gyffredin

Denu mwy o bobl "gyffredin" i'r ŵyl, hyd yn oes os nad yw'r 'pethe' at eu dant, fu'r prif nod o'r dechrau - a phrofi i bobl yng Nghymru a thu hwnt "bod modd gwneud unrhyw beth" yn Gymraeg, ac i'r di-Gymraeg fwynhau'r gweithgareddau.

"Dyna ydy'r peth sy'n rhoi mwya' o bleser i mi... dwi'n meddwl bo' ni wedi llwyddo i radda' i neud hynny," meddai, cyn ychwanegu bod angen datblygu pellach i gyflwyno "mwy o weithgareddau sydd yn gwneud i fwy o bobl ddod yna ac aros yna am y dydd".

Image caption Mae'r maes wedi newid cryn dipyn yn ystod cyfnod Elfed Roberts fel prif weithredwr, fel y mae'r olygfa hon o'r Bala yn 1997 yn amlygu

Mae'n gobeithio fod sefydlu Maes B, Llwyfan y Maes, gweithgareddau'r pafiliwn gwyddoniaeth a'r Ŵyl Llên Plant wedi rhoi profiadau da i blant a phobl ifanc fel eu bod yn cefnogi'r Eisteddfod fel oedolion.

"Breuddwyd fydda meddwl gallwn ni berswadio pawb o'r di-Gymraeg i siarad yr iaith. 'Di hwnna ddim yn ymarferol.

"Ond petai ni 'mond yn llwyddo i 'neud i bobl sylweddoli nad oes angen iddyn nhw bod ofn y Gymraeg, bod angen iddyn nhw fod yn gefnogol i'r iaith boed nhw'n siarad hi neu beidio - ma' hynny ynddo'i hun yn gam eithriadol o fawr.

"Mae 'isio cofio mai nod yr Eisteddfod ydy hyrwyddo'r Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg.

"Ac y bobl sy'n mynd i achub y Gymraeg ydy pobl gyffredin. Os ydy'r bobl gyffredin yn colli diddordeb ac yn peidio rhoi cefnogaeth i'r iaith - wel, does na'm lot o ddyfodol iddi, nag oes?"

'Ddim isio bod dan draed'

Cymysg yw'r teimladau wrth baratoi i ymddeol. Bydd yn colli cyfeillgarwch staff ac aelodau gwirfoddol pwyllgorau lleol yr Eisteddfod ar draws Cymru.

Ond mae'n edrych ymlaen at dreulio amser gyda'r teulu, teithio ychydig a gwella ei sgiliau golff.

Image copyright Betsan Moses
Image caption Betsan Moses sy'n olynu Elfed Roberts fel prif weithredwr

Os fydd yn mynd i Brifwyl 2019 yn Llanrwst - "mae 'na bosibilrwydd cry' y do'i yna, ond 'dwi'm yn saff" - mae'n benderfynol o beidio "bod o dan draed pobl" a gweld y cyfan trwy "lygaid cyn-brif weithredwr".

"Unwaith fyddai'n mynd, yna dyn ddoe fydda'i. Fydda'i ddim yn busnesu 'efo dyletswyddau y staff. Fydd o ddim byd i neud 'efo fi.

"A fydda'i ddim 'chwaith yn atab cwestiynau i neb ar sut byswn i wedi gwneud o neu dim byd felly.

"Dim hynna ydy'n steil i o gwbl. Dwi'm yn licio g'neud petha' felly. Mi fydda' i yn cefnogi'r Eisteddfod a'r staff mewn ffordd dawel ond fydda' i ddim yn neud dim byd yn gyhoeddus."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol