'Over by 'ere!' ac enghreiffitiau eraill o ddylanwad y Gymraeg ar y Saesneg

  • Cyhoeddwyd
Cennard Davies
Disgrifiad o’r llun,
Cennard Davies yw golygydd papur bro'r Gloran yn Nhreorci

Sawl gwaith y'ch chi wedi clywed rhywun yn dweud rhywbeth fel "pull a photo" neu "lost the bus" heb feddwl dwywaith?

Ond yr hyn mae'r person sydd yn siarad yn gwneud fan hyn yw defnyddio'r ffurf Gymraeg i siarad Saesneg.

Mae hwn yn arferiad sydd i'w glywed dros Gymru gyfan, ond mae'n arbennig o gyffredin yng nghymoedd diwydiannol y de.

Yma mae Cennard Davies, cyn-bennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg, yn trafod gwreiddiau'r ffordd unigryw yma o siarad...

Mae'r Gymraeg yn dal yn agos iawn i'r wyneb yn y Rhondda a llawer o bobl, heb yn wybod iddyn nhw, yn dal i'w siarad gan ddefnyddio geiriau Saesneg!

Pan ddaw ieithoedd i gysylltiad â'i gilydd, mae benthyca'n digwydd.

Tan ganol y 19eg ganrif, cymdeithas hollol Gymraeg ei hiaith oedd blaenau'r Rhondda Fawr yn cynnwys ffermwyr gwasgaredig ac ychydig grefftwyr.

Pan ddarganfuwyd glo, daeth tro ar fyd a dylifodd pobl yno o bob rhan o Gymru a Lloegr.

Come you by 'ere!

I ddechrau, Cymry o'r hen ardaloedd diwydiannol cyfagos ynghyd â Sir Gâr, Sir Aberteifi a Sir Drefaldwyn oedd y mwyafrif, ond gyda'r cyflogau uwch, denwyd gweithwyr o Loegr yn ogystal.

Er gwaethaf y mewnlifiad, roedd Cymraeg yn dal i fod yn brif iaith yr ardal ar ddechrau'r 20fed ganrif.

O ystyried hyn felly, doedd hi ddim yn syndod bod y Gymraeg wedi dylanwadu ar y Saesneg a siaredid yn yr ardal o ran geirfa, cystrawennau, priod-ddulliau ac acennu.

'E'll 'ave to rise money from the bank' *

(*Dyw siaradwyr y cymoedd ddim yn ynganu 'h' ar ddechrau gair yn y ddwy iaith.)

Yn aml defnyddir cystrawennau Cymraeg wrth siarad Saesneg, er enghraifft: 'It's gone shopping she 'as, is it?' neu 'I'll rise the tickets.' 'When is the funeral rising?'

Cyfarchiad cyffredin yn y cymoedd yw '(H)ow be?' (Shwd mae?) ac roedd Mrs Ifans, perchen Siop y Cornel yn ein stryd ni, wastad yn dweud wrth ddiolch i'r di-Gymraeg, 'Thank you very big'!

Glywais y frawddeg hon gan gymydog: 'I'm going shopping over Rona (ei wraig) but she'll be making coffee against my coming home.'

Disgrifiad o’r llun,
'After he cheated 'er, she's got no looks on 'im.'

'They were calling names on me'

Am ryw reswm, mae trosglwyddo patrwm 'ar' yn y Gymraeg i'r Saesneg yn gyffredin iawn:

'After he cheated 'er, she's got no looks on 'im.'

'I don't know what's on Tom but 'e's looking bâd. He 'ad an awful cold on 'im last week and didn't 'ave much (h)wyl. 'E should 'ave been under the doctor.'

[Mae bâd, gydag â hir, yn cyfateb i 'tost' yn Gymraeg ac fe glywch chi bobl yn sôn am 'bâd back', 'bâd ear' neu 'bâd leg' yn gyson.]

'When you've finished with the book, put it to keep'

Pan fydd mwy nag un ystyr i air Cymraeg, yn aml fe'i camddfnyddir yn Saesneg, er enghraifft mae'r gair 'dysgu' yn golygu 'to learn' neu 'to teach'. Felly'n aml, cewch enghreifftiau fel: 'Come you [Dere di], I'll learn you when I get 'old of you.'

Yn yr un modd y gair benthyg (lend/borrow): 'Can I 'ave a lend of your car?'

'She's coming a pretty girl'

Arfer diddorol a drosglwyddir i Saesneg y cymoedd yw'r defnydd a wneir yn Gymraeg o'r berfau 'mynd' a 'dod' i fynegi cynnydd/cymeradwyaeth (dod) neu ddirywiad/anghymeradwyaeth (mynd).

Yn aml, clywir brawddegau fel: 'He's coming a good rugby player' neu 'The weather is going cold' neu 'He's going to look old'.

Disgrifiad o’r llun,
'There's twp you are!'

'We 'ad a day for the king down in Cardiff'

Mae rhai priod-ddulliau wedi aros yn yr iaith lafar, fel y gwelwch chi yn yr enghreifftiau hyn:

'Tom is in his oils working in the garden.' [Yn ei hwyliau]

A weithiau, dywedir am rywun cegog: 'He/She's got a bell on every tooth.' [Cloch ar bob dant].

'There's no dal on 'im, 'e's so wit-wat!'

Mae ambell i air Cymraeg y bydd siaradwyr Saesneg yr ardal yn eu defnyddio. Geiriau fel bach, bara brith, bopa, bwci-bo, cariad, cawl, clecs, copis, corgi, crachach, crachwn (pysgodyn), cwtsh, cythrel, dal, daro, eist, eisteddfod, fellum (ffelwm), gammy (cam), gwli (lôn gefn), hiraeth, hwyl, jiawl, jiw-jiw, losin, mam-gu, milgi, paish, pics (picau ar y maen), sleish (rhaw fach), tad-cu, teisen lap, twp, twti down (twtian - cyrcydu), was (gwas), whare teg, wit-wat (chwit-chwat), ac ych a fi!

'There's change in the wind!'

Gyda diflaniad araf y rheiny oedd yn llawer mwy cartrefol yn y Gymraeg na'r Saesneg a dylanwad cynyddol y cyfryngau torfol, mae'n naturiol bod y nodweddion ni 'di bod yn eu trafod yn llai amlwg yn y Saesneg cyfoes nag y bu, ond maen nhw'n dal i'w clywed.

Mae'n amhosibl trafod holl gymhlethdodau tafodiaith Saesneg y cymoedd mewn erthygl fer fel hon, ond gobeithio bod yr enghreifftiau hyn wedi rhoi ichi ryw syniad o ddylanwad mawr yr iaith Gymraeg ar ei ffurfiant.

Ydych chi'n gallu meddwl am enghreifftiau tebyg yn eich ardal chi, neu ydych chi wedi clywed rhywun yn dweud rhywbeth tebyg i'r uchod?

Cysylltwch â ni drwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk neu drwy lenwi'r ffurflen isod (nid yw'r ffurflen yn ymddangos ar yr ap):