Dyfeisio peiriant trin slyri 'allai daclo llygredd afon'

prosiect slyri
Image caption Cafodd y broses ei ddatblygu gan Gareth Morgan o gwmni Power and Water yn Abertawe

Mae peiriannydd electrogemegol yn dweud ei fod o fewn misoedd i berffeithio proses allai droi slyri gwartheg yn wrtaith ac yn ddŵr all gael ei ddefnyddio eto.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Prosiect Slyri gyda grant o £1.3m wrth geisio mynd i'r afael â phroblem llygredd amaethyddol mewn afonydd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn delio gyda rhwng 115 a 165 o achosion o lygredd amaethyddol mewn dŵr bob blwyddyn.

Mae pysgotwyr ar draws Cymru hefyd yn dweud y gallai gaeaf arall gyda thrafferthion llygredd fel y gwelwyd llynedd olygu na fyddai nifer o afonydd yn goroesi.

'Meicro ffrwydrad'

Mae Prosiect Slyri wedi'i leoli ar gampws Gelli Aur sy'n rhan o Goleg Sir Gâr, ac mae'r campws hefyd yn fferm laeth gweithredol.

Nod y broses yw tynnu'r dŵr o slyri - gan leihau cynnwys hylif y slyri o hyd at 80% - drwy ddefnyddio cyfres o brosesau mecanyddol ac electrogemegol a ddatblygwyd gan Gareth Morgan o gwmni technoleg Power and Water yn Abertawe.

Rhan allweddol y broses, meddai Mr Morgan, yw defnyddio "meicro ffrwydrad" uwchsain sy'n cadw'r offer yn gweithio'n effeithlon.

Dywedodd wrth raglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales: "Mae'n swnio'n hurt ond mae e fel swigen fach sy'n taro plât yr electrod a'i gadw'n lân."

Ychwanegodd Mr Morgan ei fod wedi rhoi patent ar y broses a ddaeth o syniad gan ei ddiweddar dad, y peiriannydd Phil Morgan.

Image caption Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud bod nifer yr achosion o lygredd mewn afonydd yng Nghymru yn "amlwg yn annerbyniol"

Mae Prosiect Slyri yn honni y gall hynny arbed hyd at £50m y flwyddyn i'r diwydiant llaeth yng Nghymru.

Dywedodd Mr Morgan: "Ry'n ni mwy na thebyg o fewn wythnosau neu fisoedd i gael y system gyfan yn gweithio ac yn prosesu'r slyri.

"Yn y misoedd wedi hynny, ac fe fydd mor gyflym â hynny, fe fydd gyda ni opsiwn i fwrw 'mlaen gyda'r broses fel triniaeth fasnachol."

'Achosion yn annerbyniol'

Mae dros filiwn o wartheg yng Nghymru, a phan maen nhw'n cael eu cadw dan do yn ystod misoedd y gaeaf mae eu gwastraff y cael ei gadw mewn lagwnau neu danciau slyri.

Gall dŵr glaw a dŵr sy'n cael ei ddefnyddio ar y fferm hefyd fynd i'r tanciau yna.

Mae gan slyri werth maethol uchel os yw'n cael ei chwistrellu ar gaeau yn y dull cywir, ond mae hefyd yn gallu achosi llygredd sylweddol os yw'n mynd i afonydd neu ffrydiau.

Dywedodd CNC fod nifer yr achosion o lygredd gan slyri o ffermydd "yn amlwg yn annerbyniol".

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod am weithio gyda'r diwydiant i leihau'r "nifer o achosion o lygredd amaethyddol sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf".

Mae'r llywodraeth wedi rhoi arian o'i chronfa Datblygu Cymunedau Cefn Gwlad i Brosiect Slyri.

Straeon perthnasol