T20: Morgannwg yn ennill yn erbyn Surrey

Colin ingram Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Colin Ingram yn absennol i Forgannwg yn erbyn Surrey oherwydd salwch

Fe lwyddodd Morgannwg i ennill o bedair wiced yn erbyn Surrey nos Lun yn y bencampwriaeth T20 ar yr Oval.

Roedd yn rhaid i Forgannwg ymdopi heb eu prif fatiwr yn y T20 sef Colin Ingram oherwydd salwch.

Fe wnaeth Surrey alw'n gywir a phenderfynu batio yn gyntaf.

Fe lwyddodd nhw sgorio 194 am 4 gyda Nic Maddinson yn brif sgoriwr gyda 70 rhediad.

Kiran Carlson fatiodd orau i Forgannwg drwy sgorio 58 rhediad.

Llwyddodd Morgannwg i basio'r targed o 194 drwy sgorio 195-6.

Pynciau Cysylltiedig