Ben Woodburn yn arwyddo i Sheffield United ar fenthyg
- Cyhoeddwyd

Mae ymosodwr ifanc Cymru a Lerpwl, Ben Woodburn wedi symud ar fenthyg i glwb Sheffield United yn y Bencampwriaeth nes ddiwedd y tymor.
Fe wnaeth Woodburn, sy'n 18 oed, arwyddo cytundeb newydd hirdymor gyda Lerpwl ym mis Hydref y llynedd.
Ef yw'r chwaraewr ieuengaf yn hanes Lerpwl i sgorio dros y clwb, a hynny pan oedd yn 17 oed.
Mae Woodburn wedi ennill saith cap dros Gymru hyd yma, ac wedi sgorio un gôl.
Fe allai wneud ei ymddangosiad cyntaf i Sheffield United yn eu gem gyntaf o'r tymor yn erbyn Abertawe.
Tri Chymro'n gadael Lerpwl
Mae'n bosib y bydd Woodburn yn llenwi'r bwlch sydd wedi'i adael gan Gymro arall, David Brooks, sydd wedi symud o Sheffield United i Bournemouth dros yr haf.
Woodburn yw'r trydydd Cymro i adael Lerpwl yr haf yma, ar ôl i'r golwr Danny Ward arwyddo i Gaerlŷr a Harry Wilson fynd ar fenthyg i Derby County.
Dywedodd rheolwr Sheffield United, Chris Wilder: "Mae arwyddo Ben yn newyddion gwych i ni, mae'n chwaraewr cyffrous o safon uchel."
Straeon perthnasol
- 16 Mawrth 2017
- 25 Hydref 2017
- 30 Tachwedd 2016