Diffyg gofal dementia yn y Gymraeg 'ddim yn deg'

  • Cyhoeddwyd
enfys davies a garry owen
Disgrifiad o’r llun,
Enfys Davies yn sôn wrth Garry Owen am yr heriau o ofalu am bartner gyda dementia

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud nad yw'n "deg" bod rhai pobl â dementia yn methu â chael gofal cymdeithasol drwy'r Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws bod "angen newid", a'i bod eisiau clywed profiadau pobl cyn trafodaeth ar y pwnc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf.

Mae un dynes o Geredigion sy'n gofalu am ei gŵr sydd â dementia yn dweud bod angen annog mwy o Gymry Cymraeg i wirfoddoli fel gofalwyr.

Dywedodd Enfys Davies wrth raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ei bod wedi gwrthod cynnig am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer ei gŵr, Peter, am nad oedden nhw'n gallu darparu siaradwr Cymraeg.

'Ofan ar y Cymry'

Mae Enfys Davies, o Benrhiwllan ger Llandysul yn Nyffryn Teifi, yn dweud ei bod yn bwysig bod ei gŵr yn cael y gofal sydd angen arno yn y Gymraeg.

Dyna pam mae hi ar hyn o bryd yn fodlon aros am y ddarpariaeth honno yn hytrach na'i dderbyn drwy gyfrwng y Saesneg.

Yr unig gymorth cyson mae'n ei dderbyn ar hyn o bryd yw gan un o ffrindiau Peter, sydd yn galw draw am ychydig oriau'r wythnos i dreulio amser gydag e.

"Er bod y gwasanaethau cymdeithasol yn dweud mod i'n gallu cael saith awr a hanner yr wythnos i fi'n hunan, dy'n nhw ddim yn gallu cynnig neb i ddod at Peter sy'n siarad Cymraeg, a dwi'n mynnu cael rhywun sy'n siarad Cymraeg," meddai.

"Fel fi'n gweud drwy'r amser, nid dim ond iaith yw e, mae e'n dipyn mwy, mae e'n arferion, mae e'n draddodiadau, adnabyddiaeth o'r ardal, adnabyddiaeth o bobl hefyd, ac mae hynny'n bwysig i bobl sy'n dioddef o ddementia."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi bod yn casglu profiadau pobl fel Enfys

Er hynny, mae'n dweud bod gofalu am Peter yn rhoi straen ar ei hiechyd meddwl hithau, ac y byddai "clust i wrando arna i" yn gymorth mawr.

"Nid dim ond arna i, ond ar ein merched ni, ar eu partneriaid nhw. Mae e hefyd ar y cymdogion, achos pan mae pethau'n mynd yn lletchwith, dwi'n gorfod galw ar gymdogion ac maen nhw'n gorfod helpu'n syth."

Mae'n cyfaddef o bosib y bydd "rhaid i fi dderbyn" cymorth os yw cyflwr Peter yn gwaethygu, ond nad yw hi'n credu y byddai hynny o fudd.

"Fi'n teimlo y byddai Peter yn hapusach yn siarad Cymraeg gyda rhywun, ac yn trafod pethe bob dydd gyda'r person."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Enfys Davies ei bod yn aml yn gorfod gofyn am gymorth gan gymdogion i ofalu am ei gŵr, Peter

Rhan o'r broblem, meddai, yw'r teimlad bod Cymry Cymraeg yn fwy cyndyn i wirfoddoli ar gyfer gwasanaethau o'r fath ac felly bod prinder siaradwyr Cymraeg ar gael.

"Fi'n credu bod ofan ar lot o Gymry Cymraeg," meddai.

"Mae ofan y cyflwr arnyn nhw, mae ofan y busnes DBS [gwaith papur] gyda nhw, a hefyd falle bod y Cymry Cymraeg yn dal i fyw lle mae'u teulu nhw o'u cwmpas nhw i raddau ac mae pobl sy'n oedrannu yn edrych ar ôl wyrion neu'n helpu gyda'r teulu estynedig, a does dim o'r amser gyda nhw bob tro i wneud hyn."

'Ddim yn syml'

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd bydd Meri Huws yn cynnal digwyddiad arbennig i drafod gofal dementia a'r Gymraeg.

Bydd adroddiad llawn ar y mater yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref, ac fel rhan o hynny bydd y Comisiynydd yn galw am sefydlu rhwydwaith o ofalwyr rhannol-broffesiynol i gynorthwyo teuluoedd sydd yn byw gyda dementia bob dydd.

Fel rhan o'r adroddiad mae hi wedi bod yn casglu tystiolaeth gan ddioddefwyr a gofalwyr dementia, gan gynnwys Peter ac Enfys Davies.

Dywedodd ei bod yn croesawu adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar y cyflwr, ond bod angen mynd ymhellach nawr a meddwl tu allan i'r bocs.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru nawr, gyda'r cynllun dementia, i feddwl beth yn union sydd angen gwneud," meddai Ms Huws.

"Mae'n swnio'n syml, dyw e ddim yn syml, ond byse fe'n newid bywydau pobl yn sylfaenol."

Ychwanegodd: "Allwn ni ddim anwybyddu hynny, fyddai hi ddim yn deg ar Peter i gael gofalwr oedd yn siarad Saesneg."