T20: Morgannwg yn curo Sir Gaerloyw

Craig Meschede Image copyright Huw Evans
Image caption Llwyddodd Craig Meschede i ennill ei sgôr 20 pelawd gorau erioed - sef 77 heb fod allan

Daliodd tîm criced Morgannwg eu tir yn ystod gêm gyffrous ym mhencampwriaeth y T20 Vitality Blast, gan ennill gyda dau rediad yn erbyn Sir Gaerloyw yng Ngherddi Soffia.

Mi wnaeth Morgannwg lwyddo i ennill gyda 201 am chwech, yn erbyn 199 am naw Sir Gaerloyw.

Roedd yn ddechrau da i'r ymwelwyr, gyda chymorth cosb am "faesu ffug" yn erbyn Graham Wagg, ond hawliodd Ruaidhri Smith dwy wiced yn y seithfed belawd.

Llwyddodd Craig Meschede i ennill ei sgôr 20 pelawd gorau erioed, sef 77 heb fod allan, gan arwain Morgannwg at y sgôr terfynol.

Yn sgil y gêm hon nos Wener, mae Morgannwg yn aros yn y chweched safle, pwynt yn unig tu allan i'r pedwar uchaf.

Pynciau Cysylltiedig