Llysgenhadon newydd i'r Mudiad Meithrin

Llysgenhadon Mudiad Meithrin
Image caption Shereen Williams a Sion Tomos Owen gyda Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin (canol)

Mae'r Mudiad Meithrin wedi penodi llysgenhadon er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg mewn cymunedau gwahanol ar draws Cymru.

Y ddau lysgenad newydd ydy Shereen Williams, sydd yn wreiddiol o Singapore, a Siôn Tomos Owen o'r Rhondda.

Yn ôl y Mudiad Meithrin, bwriad y cynllun "yw dangos enghreifftiau o groestoriad o rieni sydd wedi dewis addysg Gymraeg i'w plant yn y gobaith y bydd mwy o rieni, yn arbennig rhieni o deuluoedd cymysg eu hiaith neu rieni di-Gymraeg, yn dewis addysg Gymraeg i'w plant."

Ochr yn ochr â'r cynllun newydd, mae'r mudiad hefyd wedi cynhyrchu taflen hyrwyddo amlieithog newydd, sydd ar gael mewn wyth iaith, ac wedi cael wedi ei chreu'n bwrpasol ar gyfer cymunedau amlddiwylliannol Cymru.

Image caption Mae'r daflen yn cynnwys Arabeg, Punjabi, Urdu, Bangla, Somali, Pwyleg, Saesneg a Chymraeg

Yn ystod y lansiad ym mhabell y Mudiad ar faes y Brifwyl, dywedodd Prif Weithredwr y Mudiad, Dr Gwenllian Lansdown, bod y daflen yn "arwydd o barch ac yn estyn llaw" a'i bod "yn braf cael gwneud hynny yn Nhre-biwt, sef yr ardal fwyaf aml-ethnig yng Nghymru.

"Mae gan pob cenedl eu harwyr," meddai wrth siarad am y llysgenhadon newydd, " a dyma yw fy arwyr i".

"Mae pobl sy'n gwneud y dewis yna o blaid addysg eu plant yn haeddu bod yn arwyr, ac mae'n gwbl briodol ac amserol ein bod yn dathlu gwaith ein harwyr tawel trwy dynnu sylw at gefnogaeth dau riant eithriadol sy'n gefnogol i genhadaeth a gwaith Mudiad Meithrin."

Image caption Mae Sion Tomos Owena'i wraig wedi penderfynu anfon eu merch i'r un ysgol gynradd ac yr aeth e pan yn blentyn

Y Gymraeg oedd iaith yr aelwyd yn ystod plentyndod Siôn Tomos Owen ac fe fynychodd y Cylch Meithrin lleol cyn parhau gyda'i addysg i Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen.

Ond yn ôl Siôn, nid oedd y penderfyniad yr un mor hawdd o ran addysg ei ferch Eira Lily, yn rhannol am fod ei wraig yn dod o gartref di-Gymraeg.

"Roedden ni'n wynebu penbleth tebyg iawn i sawl teulu arall led-led Cymru," meddai, "achos fe ges i fagwraeth Gymraeg ac fe es i ysgol Gymraeg, ond roedd fy ngwraig wedi derbyn addysg drwy gyfrwng y Saesneg."

"Rwy'n ymfalchio nawr yn y ffaith bod fy merch yn cyfieithu rhyndda i a fy ngwraig yn hollol naturiol, a dyw hi, na ni, yn gweld dim problem yn hynny.

"Un cenhedlaeth sydd ei angen i newid pethe, a dwi'n hoffi'r ffaith bod pobl oedd yn yr ysgol gyda fi a falle nag o'n nhw'n siarad Cymraeg achos nad oedd e'n 'cwl', wel ma nhw nawr yn siarad Cymraeg gyda'u plant nhw ac yn eu basio fe mlaen."

Derbyn cefnogaeth

Yn ôl Shereen Williams, doedd hi ddim yn anodd dewis addysg Gymraeg i'w phlant, ond ei bod "wedi pryderu na fyddwn yn gallu eu cefnogi wrth iddynt dderbyn eu haddysg am nad oeddwn yn siarad Cymraeg."

Dywedodd bod ei gwr, Owain, wedi siarad gyda phrifathro'r ysgol Gymraeg leol a'i fod yntau wedi dweud "na fyddai hynny'n broblem ac y bydden ni'n derbyn cefnogaeth fel teulu ar y daith hon."

"Mae iaith yn eich clymu chi i'r wlad o'r lle 'ry chi'n dod," meddai Shereen yn y lansiad, "ac er mai Cymru yw fy ngwlad fabwysiedig, dwi'n teimlo ei bod hi'n ddyletswydd arna i sicrhau fod y plant yn cael hynny."