T20: Morgannwg yn ennill yn erbyn Middlesex

criced Image copyright @GlamCricket
Image caption Cipiodd Ruaidhri Smith bedair wiced allweddol

O'r diwedd mae tîm criced Morgannwg wedi eu llenwi â hyder ac y mae buddugoliaeth ddydd Sul yn erbyn Middlesex yn Old Deer Park Richmond yn cryfhau'r hyder hwnnw.

Mae'r tîm o Gymru wedi codi yn y tabl ugain pelawd ac yn cystadlu'n ffyrnig am le yn gemau'r chwarteri.

Ond yn sicr maint y fuddugoliaeth sydd wedi peri syndod - buddugoliaeth o saith wiced a hynny ar ôl dim ond deuddeg pelawd.

Bowlio rhyfeddol a wnaeth y fuddugoliaeth yn bosibl gyda Ruaidhri Smith yn cipio pedair wiced allweddol am ddim ond chwe rhediad a Timm van der Gugten yn cymryd pedair wiced arall am 30 rhediad.

Roedd hi'n gêm ryfeddol ar ôl wythnos dda iawn i Forgannwg.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol