'Angen teilwra adnoddau i ddysgwyr Cymraeg y Wladfa'

iwan rees
Image caption Bydd Dr Iwan Rees yn trafod ei ymchwil ym Mhafiliwn y Cymdeithasau brynhawn Mawrth

Mae angen buddsoddi mewn adnoddau mwy perthnasol ar gyfer dysgwyr Cymraeg ym Mhatagonia os am osgoi colli'r dafodiaith unigryw sydd yno.

Dyna'r neges gan academydd fydd yn cyflwyno ymchwil mae wedi'i wneud i batrymau iaith yn y Wladfa ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth.

Dywedodd Dr Iwan Rees fod y cynllun dysgu Cymraeg ym Mhatagonia wedi bod yn "llwyddiant anferth".

Ond mae adnoddau dysgu sydd wedi'u llunio yng Nghymru yn golygu bod y genhedlaeth newydd o ddysgwyr yn y Wladfa yn dysgu geirfa wahanol iawn i'w neiniau a theidiau.

Poncen neu bwmpen?

Llynedd fe wnaeth Prosiect y Gymraeg ym Mhatagonia ddathlu ei 20 mlwyddiant, gyda sôn bod yr iaith yn mynd o nerth i nerth yno.

Ond y rhybudd gan Dr Rees, sy'n ieithydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yw bod angen gwneud mwy i warchod tafodiaith unigryw y rhanbarth.

"Maen nhw wedi gwneud gwaith arbennig efo ychydig iawn hyd yn hyn," meddai.

"Ond beth sydd ei angen rŵan ydi buddsoddiad mewn adnoddau."

Image copyright Isaias Grandis
Image caption Codi baneri Ariannin a Chymru y tu flaen i Ysgol y Cwm yn y Wladfa

Dywedodd bod gwerslyfrau Cymraeg sy'n cael eu defnyddio ym Mhatagonia ddim yn adlewyrchu sut mae'r hen genhedlaeth yno'n siarad yr iaith.

Mae hynny yn ei dro yn golygu perygl o greu bwlch ieithyddol, ble nad yw siaradwyr Cymraeg o wahanol genedlaethau'n ddigon hyderus yn eu hiaith i siarad â'i gilydd.

"Er enghraifft, yn y Wladfa maen nhw'n defnyddio geiriau fel 'cur pen', 'dolur gwddw', 'pigyn clust," meddai.

"[Yn y gwerslyfrau] beth maen nhw'n ei gael ydi 'pen tost', gwddwg tost', 'clust tost'."

Mae geiriau eraill, meddai, fel 'poncins' am bwmpenni a 'diwedda' yn lle diwethaf sy'n unigryw i'r Wladfa.

'Hawdd addasu'

Nid tafodiaith Patagonia fydd yr unig dan sylw yn y ddarlith, sydd wedi'i noddi gan Gymdeithas Bob Owen.

Ond mae Dr Rees yn dweud bod siaradwyr Cymraeg dan anfantais oherwydd nad ydyn nhw, yn wahanol i ddysgwyr yng ngogledd neu de Cymru, yn cael adnoddau sydd wedi'u teilwra'n benodol iddyn nhw.

Mae'r baich felly'n disgyn ar yr athrawon eu hunain i'w addasu, er mai "mater hawdd" fyddai addasu'r hyn sydd eisoes ar gael.

"Does 'na ddim disgwyl i'r athrawon o Gymru wybod dim am dafodiaith draddodiadol y Wladfa chwaith," meddai.

"Yr unig ffordd o'u cael nhw i drosglwyddo ffurfiau Gwladfaol i ddysgwyr ydi drwy ddatblygu adnoddau pwrpasol ar eu cyfer."

Straeon perthnasol