‘Ddim eisiau dyfodol i’r Gymraeg fel iaith gwyn’

Ymwelwyr o China, Li Dan Fu a Yu Jie Fu, yn mwynhau eu Eisteddfod gyntaf Image copyright Sioned Birchall
Image caption Ymwelwyr o China ar faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd

Mae trefnydd Ras yr Iaith wedi dweud nad yw eisiau gweld y Gymraeg fel "iaith gwyn" yn y dyfodol.

Ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Siôn Jobbins ei fod yn croesawu'r ffaith bod y Brifwyl ym Mae Caerdydd yn gyfle i groesawu ymwelwyr newydd, gan gynnwys o leiafrifoedd ethnig.

Ond mynnodd nad oedd hynny'n rheswm i beidio dechrau sgyrsiau yn y Gymraeg, gan ddweud ei fod yn "sarhaus" i gymryd nad oedd rhywun yn medru'r iaith.

Yn ystod yr un drafodaeth, dywedodd un o frodorion Caerdydd sydd wedi dysgu'r iaith fod angen i Gymry Cymraeg iaith gyntaf fod yn llai "diog pan mae'n dod i siarad gyda dysgwyr".

'Dim ots pa iaith'

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o'r gynulleidfa ynglŷn ag a oedd gormod o Saesneg ar faes yr Eisteddfod eleni, fe wnaeth Mr Jobbins groesawu'r ffaith bod yr ŵyl heb faes traddodiadol wedi llwyddo i ddenu ymwelwyr newydd.

Dywedodd ei fod yn "sarhaus" i gymryd bod rhywun ddim yn medru'r iaith os oedden nhw'n edrych yn wahanol i'r hyn yr oedd pobl yn disgwyl i siaradwyr Cymraeg edrych.

"Y default ddylai wastad fod i ddechrau'r sgwrs yn Gymraeg," meddai.

"Os ydyn nhw wedyn yn ateb yn Saesneg, wedyn iawn."

Ychwanegodd: "Does dim dyfodol i'r iaith fel iaith gwyn. Os ydi hi, yna dwi ddim eisiau bod yn rhan ohoni."

Image caption O'r chwith i'r dde: Ali Yassine, Ani Saunders, Emily Pemberton a Siôn Jobbins

Ymhlith aelodau eraill y panel gyda Mr Jobbins roedd y cyflwynydd a chynhyrchydd Ali Yassine, a ddysgodd Gymraeg fel oedolyn, ac Emily Pemberton - cyn-brif ddisgybl yn Ysgol Plasmawr, ac aelod cyntaf ei theulu i gael addysg Gymraeg.

Dywedodd Ms Pemberton fod angen croesawu pobl i faes yr Eisteddfod "dim ots pa iaith maen nhw'n siarad".

"Sut ni'n mynd i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg os ni'n mynd i ddweud bod gormod o Saesneg?" meddai.

Ond mewn ymateb dywedodd Mr Jobbins fod angen cofio mai gŵyl "Gymraeg" oedd hi yn y bôn.

"Fyddech chi ddim ym mynd i Ŵyl Jazz Aberhonddu a disgwyl clywed thrash metal," meddai.

'Diog' gyda dysgwyr

Yn ystod y drafodaeth ar addysg Gymraeg a Chaerdydd, oedd wedi'i threfnu gan fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, dywedodd Mr Yassine ei fod wedi'i fagu yn nociau'r brifddinas yn y 1970au mewn cyfnod lle byddai'n clywed "lot o ieithoedd", ond dim Cymraeg.

Esboniodd fod ei fagwraeth, gyda'i deulu'n dod o dras Arabaidd, wedi golygu ei fod wedi "tyfu fyny efo lot o ddiwylliannau" a bod y pwyslais ar "gadw gwreiddiau" wedi arwain yn y pen draw at ei benderfyniad i ddysgu Cymraeg.

Ond dywedodd ei fod wedi sylwi fod mwyafrif y tiwtoriaid Cymraeg yn gyn-ddysgwyr, yn hytrach nag yn siaradwyr iaith gyntaf.

"Mae Cymry Cymraeg iaith gyntaf mor ddiog pan mae'n dod at siarad gyda dysgwyr," meddai.

"Ble mae'r Cymry Cymraeg sy'n sôn am achub yr iaith ac yn y blaen, pan mae'n dod at ddysgu Cymraeg i eraill?"