Croesawu Geraint Thomas
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Thomas wedi 'ysbrydoli'r genedl'

9 Awst 2018 Diweddarwyd 06:47 BST

Mae Llywydd y Cynulliad Elin Jones yn edrych ymlaen at groesawu Geraint Thomas i'r Senedd ddydd Iau.

Bydd Geraint Thomas yn cael ei groesawu yn ôl i Gaerdydd mewn digwyddiad arbennig sy'n dathlu ei lwyddiant diweddar yn y Tour de France.

Mae'r dathliadau yn dechrau am 16:15 yn y Senedd, cyn gorffen tu allan i Gastell Caerdydd rhwng 17:00 a 17:30.

Dywedodd Ms Jones fod llwyddiant Thomas yn ras feicio fwya'r byd wedi "ysbrydoli'r genedl".