T20: Morgannwg yn ennill yn erbyn Hampshire

Ingram Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Llwyddodd Colin Ingram darro 72 heb fod allan i Forgannwg

Llwyddodd Morgannwg i ennill unwaith eto yn y T20 Blast, a'r tro hwn drwy guro Hampshire yn gyfforddus nos Wener.

Hampshire benderfynodd fatio'n gyntaf a llwyddodd Rilee Rossouw i daro 50 i'r ymwelwyr a orffennodd 151-8.

Craig Meschede oedd y cyntaf i fatio i Forgannwg ac fe sgoriodd 32 cyn mynd allan.

Unwaith eto roedd y capten Colin Ingram yn serennu i Forgannwg ac fe darodd 71 heb fod allan.

Llwyddodd Morgannwg i ennill y gêm gyda sgôr o 155-2 gyda 25 pêl yn weddill.

Dyna bumed buddugoliaeth Morgannwg allan o bump wrth iddyn nhw nesáu at sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf.

Pynciau Cysylltiedig