Cyrff cyhoeddus Cymru wedi gwario £1.7m ar 56m cwpan un tro

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Cymru'n creu canran sylweddol o gwpanau un tro Prydain

Mae ffigyrau newydd wedi datgelu dibyniaeth y sector gyhoeddus yng Nghymru ar gwpanau un tro, er gwaetha' ymdrechion i leihau'r defnydd ohonyn nhw.

Cafodd bron i 56 miliwn o'r cwpanau plastig a phapur eu prynu ers 2013, ar gost o tua £1.7m.

Mae'r data'n dangos dangos cynnydd o bron i 10% yn nifer y cwpanau a gafodd eu prynu yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd ei bod hi'n disgwyl i gyrff cyhoeddus sicrhau bod dewisiadau amgen i gwpanau un tro ar gael.

Holodd BBC Cymru 57 o gyrff - gan gynnwys cynghorau sir a byrddau iechyd - dan gais rhyddid gwybodaeth.

Darparodd 27 ddata cyflawn oedd yn dangos cynnydd o bron i 10% yn nifer y cwpanau a gafodd eu prynu yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Mae'r Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn yn disgwyl i gyrff cyhoeddus gynnig dewisiadau amgen i gwpanau un tro, ac mae'n dweud y bydd swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn ddi-blastig erbyn 2021.

"Yn ein ffreuturoedd ni ar hyn o bryd mae'n rhaid talu 25c ar gyfer cwpanau un tro, a mae mwy a mwy o bobl yn dod â chwpanau y mae modd eu hail-ddefnyddio.

"Mae'n bwysig ein bod ni gyd yn helpu lleihau gwastraff yng Nghymru.

"Ry'n ni'n edrych i gyflwyno treth plastigau gyda Llywodraeth y DU ac yma yng Nghymru ry'n ni hefyd yn ystyried cyflwyno treth ar gwpanau plastig un tro."

'Angen ailgylchu'

Ond yn ôl y diwydiant cynhyrchu cwpanau tafladwy, sicrhau bod mwy ohonyn nhw'n cael eu hailgylchu ddylai fod yn flaenoriaeth.

Mae Cymru'n gartref i ddau o'r cwmnïau mwyaf yn y maes ac yn darparu cyfran sylweddol o'r cwpanau un tro sy'n cael eu defnyddio drwy Brydain.

Yn ôl Ynyr Merfyn, Cyfarwyddwr Cyllid Seda UK - sy'n cyflogi dros 300 o bobl yn y Coed Duon, mae "pob cwpan tafladwy sy'n cael ei wneud ym Mhrydain yn gallu cael ei ailgylchu".

Y drafferth yw sicrhau eu bod yn cyrraedd un o bum safle ailgylchu penodol yn Lloegr sy'n gallu delio â nhw.

Image caption Dywedodd Hannah Blythyn bod y llywodraeth yn edrych ar gyflwyno treth plastigau

Ar hyn o bryd mae 41 o lefydd yng Nghymru lle mae modd i'r cyhoedd ddod â'r cwpanau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hanfon at y canolfanau ailgylchu.

Mae'r biniau fel arfer wedi'u lleoli mewn meysydd parcio neu ar dir canolfanau rheoli gwastraff cynghorau sir.

Yn ôl Mr Merfyn byddai'n llawer gwell petai modd i'r cyhoedd osod y cwpanau yn y bagiau ailgychu arferol sy'n cael eu casglu o'u cartrefi.

"Y'n ni am weld pobl yn gallu rhoi'r cwpanau hefo'u gwastraff cyffredinol ond hefyd mae angen cyfleusterau ar y stryd fawr - fel bod modd i bobl ollwng eu cwpanau mewn bin penodol ar ôl iddyn nhw yfed eu coffi."

"Mae 'na le i bobl ailddefnyddio (cwpanau gwydn) ond nid pawb sydd eisiau cario cwpan gyda nhw a'i olchi drwy'r amser - dyw e ddim yn ateb i bob sefyllfa."

'Mwy o bobl yn dysgu'

Mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno biniau ar gyfer cwpanau tafladwy yn eu safleodd rheoli gwastraff ers mis Ionawr.

Yn ôl Thomas Williams, swyddog ailgylchu gyda'r cyngor, maen nhw bellach yn "annog pobl i gadw cwpanau papur yn y ty a dod â nhw i'r safle pan fyddan nhw'n gallu".

"Mae'n wasanaeth newydd a mae mwy o bobl yn dod i ddysgu amdano fe a'i ddefnyddio - sy'n hyfryd i weld."

"Cyn yr opsiwn yma bydde'r cwpanau wedi mynd i safloedd tirlenwi fel rhan o wastraff cyffredinol pobl - mae hwn yn ddechreuad, gobeithio bydd mwy o bobl yn dechrau ei ddefnyddio fe a gobeithio yn y dyfodol bydd e'n haws byth i ailgylchu'r cwpanau."

Pynciau Cysylltiedig