Lluniau'r Steddfod: Dydd Iau

Diwrnod Y Fedal Ddrama a diwrnod o ddathlu wrth i Gaerdydd groesawu'r beiciwr Geraint Thomas nôl adref.

Cofiwch bod yr holl ganlyniadau, uchafbwyntiau'r cystadlu a'r straeon newyddion ar ein gwefan arbennig o'r Steddfod.

Huw Owen
Image caption Huw Owen, neu Huw Cyw fel mae'n cael ei nabod gan genhedlaeth o blant ifanc!
Sara Davies
Image caption Y gantores Sara Davies yn canu cân emosiynol oedd wedi'i chyfansoddi gan ei thaid
Bartley Bluebird
Image caption Mascot Caerdydd, Bartley Bluebird, yn paratoi i ddiddanu'r holl blant ar y Maes
Hefin Jones
Image caption Y gwyddonydd Dr Hefin Jones yn cael ei gyfarch gan Dr Siân Griffiths wrth iddo dderbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni
Côr Dysgwyr Porthcawl
Image caption Aelodau o Gôr Dysgwyr Porthcawl cyn camu ar lwyfan y Pafiliwn
Matt Spry
Image caption Seren Jones yn cyfweld Matt Spry, enillydd tlws Dysgwr y Flwyddyn 2018
Rhydian Gwyn Lewis
Image caption Rhydian Gwyn Lewis, enillydd y Fedal Ddrama, yn wên o glust i glust
Côr Daw
Image caption Aelodau Côr Daw wedi gwisgo fel Elton John i ganu yng nghystadleuaeth y Côr Dysgwyr!
Band Pres Llareggub
Image caption Band Pres Llareggub yn diddanu'r dorf cyn i Geraint Thomas ymddangos ym Mae Caerdydd
Y dorf
Image caption Waw! Y dorf i groesawu Geraint Thomas wrth y Senedd
Geraint Thomas
Image caption A dyma'r dyn ei hun!
Geraint Thomas
Image caption Geraint Thomas gydag Elin Jones, Catrin Heledd a Carwyn Jones yn canu'r anthem ar risiau'r Senedd
Cot melyn
Image caption Sue Flowers o Gwmllynfell wedi gwisgo lliw addas i groesawu Geraint Thomas
Ci bach
Image caption ...a'r ci bach yma!
Geraint Thomas Image copyright Wales news service
Image caption Ac ymlaen i ganol y ddinas, wrth i dorf arall groesawu Geraint Thomas ger Castell Caerdydd

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig