Cynghrair Europa: Y Seintiau Newydd 0-2 FC Midtjylland

Stadiwm Dinas Caerdydd
Image caption Cafodd y gêm ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau

Colli oedd hanes Y Seintiau Newydd yng nghymal cyntaf eu gêm yn rownd ragbrofol Cynghrair Europa yn erbyn pencampwyr Denmarc, Midtjylland.

Paul Onuachu sgoriodd gyntaf ar ôl naw munud o chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cyn rhwydo eto 20 munud yn ddiweddarach o gic gornel Jakob Poulsen.

Cafodd Mayron George gyfle da i Midtjylland yn yr ail hanner, ond llwyddodd golwr Y Seintiau, Paul Harrison i gadw'r sgôr i 2-0.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Nenmarc ar 16 Awst.

Pynciau Cysylltiedig