Ble nesaf i'r Eisteddfod arbrofol wedi Caerdydd?

Maes

Drwy'r wythnos, seremonïau'r pafiliwn sy'n atgoffa un nad ydy pob traddodiad wedi diflannu wrth ddod ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Fae Caerdydd.

Mae'r maes ei hun yn ymddangos ei fod wedi llwyddo, a'r torfeydd mawr yn troedio bob dydd o strydoedd y Bae tuag at y Morglawdd.

Ac mae'r naws prysur, ond hamddenol, wedi helpu dwyn perswâd ar y rhai mwyaf sinigaidd bod modd cynnal Eisteddfod lwyddiannus ar ei ffurf newydd.

Dim maes yng Nghaernarfon?

Un sy'n gobeithio trosglwyddo'r llwyddiant i'r gogledd ydy'r awdur a'r cynghorydd Simon Brooks, sydd wedi dechrau lobïo rheolwyr yr Eisteddfod i fynd â'r brifwyl i Gaernarfon.

"Chi'n gallu dychmygu'r castell, hefo rhywbeth tu fewn.

"Wedyn mae gennoch chi'r maes, yn does, a'r cei. Byddwch chi'n gallu cael y pafiliwn, wedyn, dros yr afon, a Galeri. Mae digon o gyfleusterau yna.

"Dwi'n meddwl byddai hynny yn rhywbeth gwych iawn."

"Ymhen tair blynedd mae'r Eisteddfod yn dod i Wynedd, a'n bod ni yn cael Eisteddfod awyr agored, heb ffin, ar gyfer Gwynedd a Chymru gyfan. Mi fysa hi yn wych o beth."

Image caption Dywedodd Betsan Moses bod sawl un wedi gofyn a fyddai modd creu eisteddfod debyg i Fae Caerdydd eto yn y dyfodol

Rheolwyr yr Eisteddfod fydd yn penderfynu os fyddai modd trosglwyddo strwythur, a llwyddiant, Bae Caerdydd i drefi eraill.

Y darpar prif weithredwr Betsan Moses fydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw.

"Mae yna nifer wedi bod yn galw bod e'n dod i Gaernarfon, bod e'n dod i Borthmadog, bod e'n dod i Benllyn, a dwi'n credu da beth yw hynny. Mae'n brawf o werth yr Eisteddfod."

"O ran safle gwahanol, ry' ni'n unigryw fan yma [Mae Caerdydd]. Mae gennom ni'r gofodau fel y Ganolfan, mae gennom ni'r Senedd, y Pierhead.

"Felly i fi, yr hyn sy'n hollbwysig yw os nad yw rheina yna, wedyn mae 'na gost o wireddu, i sicrhau bod gennom ni'r is-bafiliynau mewn lle.

"Fel ein bod ni yn gallu parhau i greu Eisteddfod draddodiadol wahanol."

Fe all rhai elfennau o Eisteddfod Caerdydd gael eu trosglwyddo i'r brifwyl nesaf yn Llanrwst.

Parhau â'r mynediad am ddim i'r maes ydy'r syniad fwyaf poblogaidd.

"Mae 'na bobl wedi gofyn o ran y gost, bydda fe'n braf iawn i weld Eisteddfod am ddim yn digwydd mewn rhywle arall. Ac mae hwnna'n sgwrs bydd rhaid i ni ei gael.

"Ond ar hyn o bryd, wrth gwrs, ni ellid gwireddu fe yn y modd ry' ni'n cael ein hariannu. Felly bydd rhaid i ni siarad gyda'n partneriaid.

"Ac os ydyn ni'n dweud ein bod ni o ddifri' yn chwilio am filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac mae hwn yn ffenest siop ar yr iaith a'r diwylliant yna, ac os oes modd ariannu i wireddu hynny, yna da beth fydd hynny."

Image caption Dywedodd Owain Young bod ei brofiad yn y Bae eleni wedi newid ei feddwl o'r syniad

Mae'r maes yn byrlymu, a'r stondinwyr yn adrodd bod busnes wedi bod yn dda iawn.

Dywedodd Owain Young sy'n rhedeg siop ddillad Shwl di Mwl bod busnes wedi bod yn "hollol anhygoel".

"Mae'r tywydd wedi bod yn ffactor, ond hefyd 'dwi'n meddwl oherwydd bod bobl ddim yn talu i ddod mewn.

"O'n i'n sceptic yn dod yma, ond 'dwi wedi cael tröedigaeth. 'Dwi'n caru Caerdydd nawr."

'Anhygoel'

Yr un hanes sydd gan Buddug Humphreys sy'n gwerthu ei gemwaith ar y maes.

"Mae wedi bod yn rili anhygoel, i ddweud y gwir.

"Achos bod hi mor brysur achos bod hi mor agored i'r cyhoedd. Mae pawb sydd yn ymweld â'r bae o dros y byd i gyd yn gallu ymweld â'r stondin."

Mae poblogrwydd digwyddiadau'r pafiliwn, a'r gofodau eraill eleni, yn arwydd bod rhai pethau nad oes neb eisiau newid am yr Eisteddfod Genedlaethol.

A thra bod yr arbrawf yng Nghaerdydd yn ymddangos ei bod wedi gweithio, bydd ardaloedd eraill Cymru yn gorfod lobïo'n galed i gynnal eu fersiynau nhw o'r Brifwyl fodern.

Straeon perthnasol