Cyhoeddi rhybudd melyn ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd

Y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar draws Cymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gellir disgwyl glaw taranau trwm ar draws Cymru.
Mae arbenigwyr yn rhagweld y gall hyd at 30mm o law ddisgyn o fewn awr.
Mae'r rhybudd yn weithredol rhwng 12:00 a 20:00 ddydd Sul.
Ofnir y bydd llifogydd mewn rhai mannau a gall rhai ardaloedd ddisgwyl colli eu cyflenwad trydan o ganlyniad i fellt.
Mae 'na rybudd y gall gyrru fod yn anodd ac mae'n bosib y bydd oedi ar wasanaethau bws a thrên wrth i rai gwasanaethau gael eu canslo.